1541080062
Pod Jomec Cymraeg

Advertise on podcast: Pod Jomec Cymraeg

This podcast has
82 episodes
Language
English
Explicit
No
Date created
2020/11/19
Latest episode
2026/09/23
Average duration
23 min.
Release period
68 days

Description

Dyma bodlediad i chi fydd yn datgelu popeth chi erioed wedi ishe gwybod am rai o ddarlledwyr/newyddiadurwyr gorau Cymru.

Unlock Pod Jomec Cymraeg podcast Email contact info,
Listeners & Audience details

Email contact information

Direct podcast contact details

Listeners

Audience numbers & engagement insights

Audience details

Podcast Insights

Podcast episodes

Check latest episodes from Pod Jomec Cymraeg podcast


Pod Jomec Cymraeg 82- Garmon Rhys
2026/09/23
Beth ydy'r BBC erioed wedi gwneud i ti? Kieran Miller sy'n holi cyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, Garmon Rhys ar drothwy cyhoeddiad mawr am sut y bydd y gorfforaeth yn arbed £9m. Kieran sy'n holi fydd 'na swyddi i fyfyrwyr newyddiaduraeth wedi iddyn nhw raddio, a sut mae Garmon yn perswadio'r penaethiaid yn Llundain bod gwerth gwarchod y ddarpariaeth Gymraeg ar adeg o doriadau.
Pod Jomec Cymraeg 81- Caitlin Lovell
2026/03/27
Yn y bennod hon, mae Myfi Morris, myfyrwraig yn y flwyddyn gyntaf yn JOMEC, yn cael sgwrs gyda Caitlin Lovell - newyddiadurwraig sydd yn arbenigo ar lwyfannau digidol gyda ITV Cymru.  Yn y cyfweliad, mae Caitlin yn rhannu ei stori o weithio gyda Hansh Dim Sbin, yn gweithio ar raglen Tanwen & Ollie, ac yn paratoi i weithio ar y darllediad sydd ar ddod o etholiad y Senedd.
Pod JOMEC Cymraeg 80- Jacob Morris
2026/03/03
Jacob Morris, gohebydd gwleidyddol digidol Newyddion S4C yw gwestai arbennig Jomec Cymraeg y tro hwn. Ifan Meredith o'r ail flwyddyn sy'n ei holi am y byd newyddion digidol.
Pod JOMEC Cymraeg 79- Daf James
2025/06/26
Yn y bennod hon, mae Elen Morlais, myfyrwraig yn yr ail flwyddyn sy’n astudio’r Gymraeg a Newyddiaduraeth, yn cael sgwrs ddifyr gyda Daf James - dramodydd, cyfarwyddwr, cyfansoddwr ac awdur anhygoel sydd wedi gwneud enw iddo’i hun ar draws Cymru a thu hwnt. Mae Daf yn ffigwr blaenllaw ym myd creadigol cyfoes yng Nghymru, gyda gweithiau fel Llwyth, Tylwyth, Lost Boys and Fairies a llawer mwy wedi ennill canmoliaeth eang. Yn y podlediad hwn, cawn glywed mwy am ei daith greadigol, ei ysbrydoliaeth, a’i brofiadau’n gweithio ym myd theatr, cyfryngau a ffilm, yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Pod JOMEC Cymraeg 78- Sara Esyllt
2025/06/24
Sara Esyllt, un o gyflwynwyr Newyddion S4C o'r BBC yw gwestai arbennig Jomec Cymraeg y tro hwn. Gabrielle Hughes o'r ail flwyddyn sy'n ei holi hi am golur a rhywiaeth yn y byd newyddiadurol a gwranda i'r diwedd i glywed pwy fyddai Sara yn gollwng popeth i gael cyfle i'w holi!
Pod Jomec Cymraeg 77- Elan Iâl
2025/03/06
Yn y bennod hon, Ffion Evans o'r drydedd flwyddyn sydd yn siarad gydag Elan Iâl, cyfarwyddwr cwmni Libera. Gyda 8 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y cyfryngau, mae Elan yn arbenigo yn y maes cyfryngau cymdeithasol, digidol a marchnata.
Pod JOMEC Cymraeg 76- Ciaran Jenkins
2024/09/18
Ciaran Jenkins o Channel Four News yw gwestai JOMEC Cymraeg yn y rhifyn arbennig yma - Sgŵps, Sgandals a Sgrolio: Pwy sy’n becso am y Newyddion?  Cafodd y podlediad hwn ei recordio ar leoliad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd eleni gyda un o’n graddedigion, Nest Jenkins o ITV yn holi. Wedi blwyddyn heriol i’r byd newyddiadurol, Ciaran sy’n lleisio barn am newyddiaduraeth Cymru, rôl gohebwyr, sut i ad-ennill ffydd pobl mewn newyddion a hefyd, fel chwaraewr cello o fri - pa newyddiadurwr enwog fasai e’n hoffi gwneud deuawd â nhw?
Pod Jomec Cymraeg 75- Tegan Rees
2024/08/07
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Tegan Rees. Mae Tegan wedi graddio o JOMEC haf yma, 2024.
Pod Jomec Cymraeg 74- Megan Taylor
2024/08/07
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Megan Taylor. Mae Megan yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Mae Megan hefyd yn dod o Bontypridd, cartref Eisteddfod 2024.
Pod Jomec Cymraeg 73- Molly Sedgemore
2024/08/04
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Molly Sedgemore. Mae Molly yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i S4C. Mae Molly hefyd yn dod o RCT, lleoliad Eisteddfod 2024.
Pod Jomec Cymraeg 72- Jess Clayton
2024/08/03
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Hannah Williams o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld â Jess Clayton. Mae Jess yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i ITV. Mae Jess hefyd yn dod o RCT, lleoliad Eisteddfod 2024. Cynhyrchydd y pod: Jack Thomas (JOMEC, blwyddyn 2)
Pod Jomec Cymraeg 71- Dylan Griffiths
2024/04/08
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, mae Owain Davies o flwyddyn 3, yn cyfweld a'r sylwebydd pêl-droed Dylan Griffiths.
Pod Jomec Cymraeg 70- ReniDrag
2024/04/02
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, mae Poppy Goggin Jones o flwyddyn 1, yn cyfweld a'r You Tuber ReniDrag neu Tomas Gardiner! Erbyn hyn mae gan ReniDrag dros hanner filiwn o danysgrifwyr ar You Tube, ac fe yw un o You Tubers mwyaf llwyddiannus Cymru.
Pod Jomec Cymraeg 69- Aled Biston
2024/03/27
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Hanna Morgans Bowen o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld ag Aled Biston. Mae Aled yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i newyddion S4C.
Pod Jomec Cymraeg 68- Melanie Owen
2024/02/20
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion. Yn y bennod yma, mae Lena Mohammed, sydd yn ei blwyddyn olaf, yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Melanie Owen. Mae Melanie yn cyflwyno pods, yn gwneud 'stand-up' ac yn ysgrifennu colofnau. Dyma'i stori hi!

Podcast reviews

Read Pod Jomec Cymraeg podcast reviews


0 out of 5
0 reviews

Podcast sponsorship advertising

Start advertising on Pod Jomec Cymraeg relevant audience podcasts


What do you want to promote?