1843159458
Ymchwil Ar Y Gweill

Advertise on podcast: Ymchwil Ar Y Gweill

Categories
This podcast has
16 episodes
Explicit
No
Date created
2025/09/30
Latest episode
2026/09/25
Average duration
42 min.
Release period
26 days

Description

Ymchwil ar y Gweill yw’r podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. Boed chi’n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.

Podcast episodes

Check latest episodes from Ymchwil Ar Y Gweill podcast


Pennod 14: Adolygiad Cynhadledd BAAL gyda Emma Grigorian a Jonathan Davies
2026/09/25
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Emma Grigorian am eu profiad o fynychu cynhadledd flynyddol y British Association of Applied Linguistics (BAAL) yn Birmingham. Dros dri diwrnod o gyflwyniadau, trafodaethau a chymdeithasu, bu’r ddau yn cael cyfle i glywed am ymchwil ym maes ieithyddiaeth gymhwysol gan ymchwilwyr o Gymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Yn ystod y sgwrs, mae Jonathan ac Emma yn trafod beth sy’n gwneud cynhadledd academaidd yn brofiad mor ddwys, gan gynnwys y dewis o sesiynau, cyflwyniadau sy’n berthnasol i’w gwaith a chyflwyniadau eraill sy’n cynnig syniadau newydd ac annisgwyl. Maen nhw hefyd yn rhannu rhai o’r cyflwyniadau a’r pynciau a wnaeth yr argraff fwyaf arnynt, gan gynnwys gwaith ar seicoleg dysgu ieithoedd, rôl memes wrth fynegi emosiynau, ac ymchwil i ieithyddiaeth mewn ysgolion. Mae’r bennod hefyd yn trafod lle Cymru a’r Gymraeg o fewn y maes ieithyddiaeth gymhwysol yn ehangach. Mae Jonathan ac Emma yn myfyrio ar y diffyg cyfeiriadau at Gymru a’r Gymraeg mewn rhai o’r trafodaethau yn y gynhadledd, ac ar bwysigrwydd sicrhau bod cyd-destunau ieithyddol Cymru yn cael eu cynrychioli mewn ymchwil a thrafodaethau rhyngwladol. Maen nhw hefyd yn trafod eu profiad o gyflwyno eu gwaith eu hunain yn Saesneg, a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n dod gyda siarad am ymchwil o flaen cynulleidfa academaidd newydd. Un o themâu eraill y sgwrs yw dylanwad deallusrwydd artiffisial ar ymchwil academaidd. Mae’r ddau yn trafod pa mor aml roedd AI yn ymddangos yn y cyflwyniadau yn y gynhadledd, ac yn ystyried y perygl o drin technoleg newydd fel buzzword yn hytrach na chanolbwyntio ar ei defnyddiau a’i gwerth gwirioneddol. Wrth gloi, mae Emma yn trafod yr angen i fod yn llai beirniadol o’n methodolegau ymchwil ein hunain a chydnabod bod gan bob dull ei gyfyngiadau. I Jonathan, y brif wers o’r gynhadledd yw pwysigrwydd cyfathrebu a chymdeithasu â chyd-ymchwilwyr. Drwy rannu syniadau, gofyn cwestiynau a dod i adnabod gwaith pobl eraill, gall cynadleddau academaidd fod yn gyfle pwysig i ddysgu, adeiladu rhwydweithiau a datblygu fel ymchwilydd. Mae prosiectau Emma a Jon yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Pennod 13: Trin Dementia gyda Ffion Roberts
2026/09/09
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Ffion, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n ymchwilio i ddementia ac, yn benodol, i’r hyn sy’n digwydd i gelloedd yr ymennydd wrth i bobl heneiddio. Mae ei gwaith yn edrych ar gyflyrau gan gynnwys clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson a dementia, gan geisio deall y gwahaniaeth rhwng heneiddio arferol a’r newidiadau sy’n digwydd yn yr ymennydd mewn dementia. Yn ystod y sgwrs, mae Ffion yn trafod ei gwaith yn y labordy, gan gynnwys y broses o drawsnewid celloedd croen yn niwronau er mwyn creu modelau sy’n adlewyrchu oedran y person y daeth y celloedd ohono. Mae hi’n esbonio pam y gall y modelau hyn fod yn ddefnyddiol wrth astudio dementia, gan alluogi ymchwilwyr i archwilio beth sy’n digwydd mewn celloedd byw ac i brofi triniaethau posibl. Mae’r sgwrs hefyd yn trafod rhai o’r gwahaniaethau rhwng clefyd Alzheimer a chlefyd Parkinson, a rôl proteinau a mitocondria mewn iechyd celloedd yr ymennydd. Mae’r bennod hefyd yn archwilio rôl grelin, hormon sy’n cael ei gynhyrchu yn y stumog ac sy’n fwyaf adnabyddus am ei gysylltiad â newyn. Mae Ffion yn trafod ymchwil sy’n awgrymu bod grelin hefyd yn gallu effeithio ar yr ymennydd ac yn esbonio sut mae ei gwaith yn ymchwilio i’r posibilrwydd o dargedu’r system hon er mwyn hybu twf niwronau newydd. Drwy gyfuno modelau celloedd newydd ag ymchwil i grelin, y gobaith yw datblygu ein dealltwriaeth o ddementia ac archwilio llwybrau newydd posibl ar gyfer triniaethau yn y dyfodol. Mae prosiectau Ffion a phrosiect Jon yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Pennod Bonws: Diolch o Galon o Ymchwil Ar Y Gweill
2026/06/30
Diolch yn fawr iawn, pawb am eich holl gymorth dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma neges i roi gwybod y bydd Ymchwil Ar Y Gweill yn cymryd amser bant dros yr haf er mwyn recordio ar gyfer cyfres 2! Bydd Cyfres 2 hefyd yn ehangu’r ystod o leisiau ar y podlediad, gan gynnwys ymchwilwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd academaidd, ynghyd â mwy o benodau drwy gydol y gyfres. Cyn hynny, mae croeso i chi fynd yn ôl at benodau Cyfres 1 ac ail-ddarganfod yr ymchwil ffantastig sydd eisoes wedi’i rhannu. Diolch o galon eto am wrando a dw i'n edrych ymlaen at eich croesawu chi nôl ym mis Medi! Jon
Pennod 12: Cyllid a Datganoli gyda Guto Rhys Hughes
2026/06/29
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Guto Rhys-Hughes, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n ymchwilio i ddatganoli cyllidol, bondiau sofran, a’r modd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio dulliau benthyca newydd i ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn y dyfodol. Mae’r sgwrs yn cyflwyno cysyniadau economaidd cymhleth mewn ffordd glir ac yn archwilio sut mae ymchwil academaidd yn gallu llywio trafodaethau polisi cyhoeddus. Yn ystod y bennod, mae Guto yn esbonio beth yw bondiau sofran, sut maent yn gweithio, a pham eu bod yn offeryn ariannol pwysig i lywodraethau ledled y byd. Mae’n trafod y pwerau benthyca a gafodd Llywodraeth Cymru yn 2015, sut mae’r Alban yn paratoi i gyhoeddi ei bond cyntaf, a beth all Cymru ei ddysgu o’r profiadau hynny. Mae hefyd yn egluro’r cysyniad o ddatganoli cyllidol a’r berthynas bosibl rhwng rhoi mwy o bwerau ariannol i lywodraethau lleol a thwf economaidd. Mae’r bennod hefyd yn cynnig cipolwg ar realiti ymchwil PhD ym maes economeg. Mae Guto yn trafod yr heriau o gasglu a chysoni data o wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, defnyddio cronfeydd data fel Bloomberg Terminal, a datblygu modelau ystadegol i ddadansoddi’r berthynas rhwng datganoli cyllidol a pherfformiad economaidd. Wrth gloi, mae’n rhannu cyngor i ymchwilwyr eraill ar bwysigrwydd cymryd seibiannau, siarad â chydweithwyr, a chadw cydbwysedd yn ystod taith y PhD. Mae prosiect Jonathan a phrosiect Guto yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Pennod 11: Diddordebau'r Dysgwyr yn y Dosbarth Ieithoedd gyda Laura Jenkins
2026/05/14
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Laura Jenkins, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, sy’n ymchwilio i rôl personoli mewn gwersi dysgu ieithoedd a sut y gall cynnwys sy’n berthnasol i fywydau dysgwyr gynyddu eu hymgysylltiad â’r iaith.   Yn ystod y sgwrs, mae Laura yn trafod ei gwaith ar greu gwersi sydd wedi’u teilwra at ddiddordebau personol dysgwyr—o gerddoriaeth a bwyd i ffilmiau, cyfryngau cymdeithasol a chynnwys digidol fel Instagram, YouTube a Pinterest. Mae hi’n esbonio sut y gall defnyddio cynnwys sy’n berthnasol i fywyd pob dydd helpu dysgwyr i deimlo mwy o gysylltiad â’r iaith ac annog mwy o gyfranogiad yn y dosbarth.   Mae’r bennod hefyd yn archwilio rhai o’r syniadau damcaniaethol sydd wrth wraidd ei hymchwil, gan gynnwys “context personalization”, “grain size, depth and ownership”, a’r cysyniad o “catch and hold” mewn addysg ieithoedd. Mae Laura yn trafod sut mae’r syniadau hyn yn helpu ymchwilwyr a thiwtoriaid i feddwl yn fwy realistig am sut i bersonoli gwersi mewn dosbarthiadau gyda dysgwyr o gefndiroedd a diddordebau gwahanol.
Pennod 10: Y Gymraeg ac Iechyd gyda Maisie Edwards
2026/04/15
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Maisie Edwards, ymchwilydd PhD sy’n archwilio rôl y Gymraeg mewn cyd-destunau Iechyd yng Nghymru. Yn ystod y sgwrs, trafodir pwysigrwydd iaith wrth ddarparu gofal sy’n wirioneddol ganolbwyntio ar yr unigolyn, yn enwedig mewn cyd-destunau diwedd oes. Mae Maisie yn amlinellu sut y gall y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg effeithio ar gysur, ymddiriedaeth ac ymgysylltiad cleifion, gan bwysleisio bod iaith yn fwy na dull o drosglwyddo gwybodaeth—mae’n ganolog i les emosiynol ac urddas. Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil, sy’n cynnwys arolwg o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru ynghyd â chyfweliadau manwl. Trwy’r dulliau hyn, mae hi’n archwilio profiadau ac agweddau tuag at ddefnydd iaith mewn lleoliadau gofal lliniarol, yn ogystal â’r heriau sy’n codi, megis diffyg staff Cymraeg eu hiaith a’r angen am gefnogaeth sefydliadol gryfach i hwyluso darpariaeth ddwyieithog. Er nad yw’r dadansoddiad wedi’i gwblhau eto, mae canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod dewis iaith yn chwarae rôl hanfodol mewn ansawdd y gofal a ddarperir. Mae Maisie yn trafod sut y gall ei hymchwil gyfrannu at lenwi bylchau yn y dystiolaeth bresennol, gan lywio polisi ac arfer yn y dyfodol, a thynnu sylw at bwysigrwydd darparu gofal sy’n briodol yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol—yng Nghymru ac mewn cyd-destunau ieithoedd lleiafrifol eraill. Mae PhD Jonathan a phrosiect Maisie yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Pennod 9: Dulliau Dysgu Cymraeg gyda Emma Grigorian
2026/03/25
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Emma Grigorian, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd, sy’n archwilio dysgu Cymraeg ar lein ac yn wyneb i wyneb. Yn ystod y sgwrs, trafodir rhyngweithiadau dysgu iaith, gan ganolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng cyfathrebu wyneb yn wyneb a chyfathrebu'n rhithiol. Mae Emma yn esbonio sut mae ffactorau megis oedi mewn galwadau fideo, diffyg ciwiau gweledol fel meicrofynegiadau, a newidiadau mewn deinameg cymryd-tro yn dylanwadu ar brofiad dysgwyr — yn enwedig o ran hyder, cymhelliant a llwyddiant cyfathrebol canfyddedig. Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil amlfoddol, sy’n cyfuno technegau megis olrhain syllu, dadansoddi emosiynau, ac astudiaeth fanwl o batrymau sgwrsio. Trwy gyfres o arbrofion a holiaduron, mae hi’n archwilio sut mae dysgwyr yn prosesu iaith mewn amodau gwahanol, gan gynnwys effaith ansawdd fideo ac oedi ar gywirdeb metawybyddol, yn ogystal â sut mae unigolion yn barnu llwyddiant mewn sgwrs. Mae PhD Jonathan a phrosiect Emma yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Pennod 8: Gweithio gyda Goruchwylwyr gyda Dr Jonathan Morris
2026/02/20
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda'i oruchwyliwr, Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, am un o’r penderfyniadau pwysicaf ar ddechrau taith academaidd: dewis a gweithio gyda goruchwylwyr doethurol. Yn ystod y sgwrs, trafodir sut i fynd ati i ddod o hyd i’r goruchwyliwr cywir, sut i wneud y cyswllt cyntaf heb deimlo fel eich bod chi’n anfon neges i’r gwagle, a beth sy’n gwneud perthynas oruchwylio yn un iach a chynhyrchiol.
Pennod 7: Deallusrwydd Artiffisial gyda Beca Wyn Owen
2026/02/04
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Beca Wyn Owen, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n archwilio rôl deallusrwydd artiffisial mewn addysg o fewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol, gyda ffocws penodol ar y Gymraeg. Yn ystod y sgwrs, trafodir sut mae technolegau AI yn cael eu datblygu a’u defnyddio, a’r hyn mae hynny’n ei olygu i fywiogrwydd ieithyddol yn yr oes ddigidol. Mae Beca yn esbonio sut gall anghydbwysedd data, dylanwadau masnachol, a phenderfyniadau polisi arwain at anghydraddoldebau digidol rhwng ieithoedd — ac yn holi beth yw goblygiadau hyn i addysg Gymraeg mewn ysgolion a phrifysgolion. Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil, sy’n canolbwyntio ar brofiadau athrawon, myfyrwyr, darlithwyr a llunwyr polisi, ac yn codi cwestiynau pwysig am gyfrifoldeb, cyfleoedd, a dyfodol y Gymraeg mewn byd lle mae AI yn chwarae rhan gynyddol ganolog. Mae PhD Jonathan a phrosiect Beca yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Pennod 6: Dyfodol Ffermydd yng Nghymru gyda Gwenllian Jenkins
2025/12/10
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Gwenllian Jenkins, ymchwilydd PhD sy’n archwilio sut mae ffermydd Cymru’n addasu ac yn goroesi yn oes o newid economaidd, gwleidyddol ac hinsoddol.   Mae’r drafodaeth yn mynd â ni i galon amaethyddiaeth Cymru: y fferm deuluol. Wrth i ni ymuno â hi,cawn glywed sut mae newid hinsawdd, ansicrwydd polisi, a’r angen am incwm ychwanegol yn gwthio ffermwyr i ail-ddychmygu eu rôl — o gynhyrchwyr bwyd traddodiadol i ddarparwyr gwasanaethau ecosystem ac arloeswyr busnes gwledig.   Mae’r sgwrs hefyd yn tynnu sylw at y newid demograffig sy’n wynebu’r diwydiant: gweithlu sy’n heneiddio, prinder ffermwyr ifanc yn ymuno â’r maes, ac y cwestiwn mawr — sut olwg sydd ar ddyfodol amaeth yn Nghymru?   Dilynwch Gwen are LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/gwenllian-jenkins-7510b7205/   Mae fy mhrosiect PhD a phrosiect Gwenllian yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Pennod 5: Dosbarth Cymdeithasol a'r Gymraeg gyda Heledd Williams
2025/11/26
Yn y bennod hon, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda’r ymchwilydd Heledd am ei phrosiect PhD hynod ddiddorol, “Y Werin Goll? Dosbarth Cymdeithasol a’r Iaith Gymraeg.” Mae Heledd yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng dosbarth cymdeithasol, iaith ac hunaniaeth yng Nghymru heddiw. Yn ystod y sgwrs, cawn drafod sut mae dosbarth yn siapio pwy sy’n cael llais wrth ddiffinio Cymreictod, a pha rôl mae’r iaith Gymraeg ffurfiol yn ei chwarae wrth greu (neu rwystro) teimlad o berthyn. Gan dynnu ar feddylwyr megis Raymond Williams a Bourdieu, mae Heledd yn herio’r ddelwedd gonfensiynol o’r “siaradwr Cymraeg nodweddiadol”, gan roi llwyfan i leisiau’r werin Gymreig a phrofiadau dosbarth gweithiol yng Nghymru gyfoes. Sgwrs ysgogol sy’n uno iaith, diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol – gan ofyn, beth mae’n wirioneddol ei olygu i berthyn yng Nghymru heddiw? LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/heledd-williams-139a298b/ Mae fy mhrosiect i a phrosiect Heledd yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dilynwch Ymchwil ar y Gweill ar ei hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gyrmu.
Pennod 4: Creadigrwydd yn y Cwricwlwm gyda Megan Sass
2025/11/12
Yn y bennod hon, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Megan Sass, ymchwilydd PhD yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn archwilio sut mae creadigrwydd yn cael ei ddeall, ei feithrin, a’i ymarfer yn y dosbarth Cymraeg o fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Cawn glywed sut mae Megan yn diffinio creadigrwydd, y dulliau y gall athrawon eu defnyddio i feithrin sgiliau creadigol ymhlith dysgwyr, a’r heriau ymarferol sy’n codi wrth roi’r cwricwlwm newydd ar waith. LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/megan-sass-68427526b/?originalSubdomain=uk Mae fy mhrosiect i a phrosiect Megan yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dilynwch Ymchwil ar y Gweill ar ei hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gyrmu.
Pennod 3: Y Lysosom gyda Gwenno Rowlands
2025/10/29
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Gwenno Rowlands, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, am ei gwaith ar y lysosom – y “ganolfan ailgylchu” fach sydd o fewn pob cell o’n cyrff. Mae’r sgwrs yn mynd â ni ar daith drwy fyd bach y gell, gan egluro sut mae camweithrediad mewn ensym penodol, asid seramidas, yn gallu arwain at glefydau prin difrifol fel clefyd Farber – ond hefyd yn cynnig cliwiau newydd am gyflwrau cyffredin fel canser ac Alzheimer. Mae’r bennod hefyd yn trafod profiad gwneud ymchwil wyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg – y manteision, yr heriau, a’r pwysigrwydd o sicrhau lle i’r Gymraeg yn y byd academaidd a gwyddonol. Linked in: https://www.linkedin.com/in/gwennorowlands/?originalSubdomain=uk Mae fy mhrosiect a phrosiect Gwenno yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dilynwch Ymchwil ar y Gweill ar eich hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gymru!
Pennod 2: Hanes Pel-Droed Cymru gyda Beth Jones
2025/10/15
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Beth Angharad Jones, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor sy’n ymchwilio i hanes pêl-droed yng Ngogledd Cymru. Mae Beth yn archwilio sut mae pêl-droed yn siapio hunaniaeth Gymreig, rhywedd a chymuned — o glybiau lleol i dimau cenedlaethol, ac o’r cof bob dydd i’r archif. Drwy hanes llafar, diwylliant materol ac ymchwil archifol, mae ei gwaith yn taflu goleuni ar straeon sydd wedi’u hanwybyddu’n aml; yn enwedig lleisiau merched a phobl anneuaidd yn y gamp. Mae’r sgwrs yn ystyried beth mae pêl-droed yn ei olygu i Gymru, sut mae’n atgyfodi atgofion ac emosiynau, a pham mae’r gêm yn dal mor ganolog i’n hunaniaeth genedlaethol. Instagram: https://www.instagram.com/beth.jones.hanes?utm_source=ig_web_button_share_sheet&igsh=ZDNlZDc0MzIxNw== Mae fy mhrosiect i a phrosiect Beth yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dilynwch Ymchwil ar y Gweill ar eich hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gymru.
Pennod 1: Dysgu Ynganu gyda Marian Brosschot
2025/10/01
Yn yr bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, dyn ni'n siarad â Marian Brosschot, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, am ei phrosiect “Hyder wrth (A)ddysgu Ynganu: Datblygu Hyfforddiant Ynganu ym maes Cymraeg i Oedolion”. Mae ynganu yn un o’r heriau mwyaf i’w feistroli wrth ddysgu iaith newydd – i’r dysgwyr eu hunain ac i’r tiwtoriaid sy’n eu haddysgu. Mae’r ymchwil hon yn archwilio sut y gellir cefnogi tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion i ddysgu ynganu gyda mwy o hyder, a sut y gellir rhoi’r offer i ddysgwyr wella eu Cymraeg llafar. Bydd y prosiect hefyd yn ystyried sut mae cefndir ieithyddol y dysgwyr, boed eu hiaith gyntaf neu dafodiaith, yn effeithio ar eu gallu i feistroli seiniau’r Gymraeg. Gyda chefndir dysgu yng Nghymru, Sbaen ac Ariannin, ac fel crëwr y sianel YouTube Galés con Marian, mae Marian yn dod â phrofiad rhyngwladol a brwdfrydedd dros ddysgu ieithoedd i’w gwaith. Youtube: https://www.youtube.com/@galesconmarian Instagram: https://www.instagram.com/galesconmarian?utm_source=ig_web_button_share_sheet&igsh=ZDNlZDc0MzIxNw== TikTok: https://www.tiktok.com/@gales_con_marian?is_from_webapp=1&sender_device=pc Mae fy mhrosiect a phrosiect Marian yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dilynnwch Ymchwil ar y Gweill ar eich hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gymru.

Podcast reviews

Read Ymchwil Ar Y Gweill podcast reviews


0 out of 5
0 reviews

Podcast sponsorship advertising

Start advertising on Ymchwil Ar Y Gweill relevant audience podcasts


What do you want to promote?

You may also like to advertise on these Podcasts