567679486
Beti a'i Phobol

Advertise on podcast: Beti a'i Phobol

Rating
★★★★★
5
from
2 reviews
This podcast has
673 episodes
Language
English
Explicit
No
Date created
2012/10/03
Latest episode
2026/11/08
Average duration
49 min.
Release period
10 days

Description

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Unlock Beti a'i Phobol podcast Email contact info,
Listeners & Audience details

Email contact information

Direct podcast contact details

Listeners

Audience numbers & engagement insights

Audience details

Podcast Insights

Podcast episodes

Check latest episodes from Beti a'i Phobol podcast


Mei Gwynedd
2026/11/08
Mae Mei Gwynedd yn un o enwau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth Gymraeg cyfoes. Yn wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, mae wedi bod wrth galon y sîn gerddoriaeth ers dros dri degawd, gan chwarae rhan allweddol mewn bandiau eiconig fel Beganifs, Big Leaves, Sibrydion a The Peth. Mae hefyd wedi gwneud gyrfa lwyddiannus o'i angerdd dros gerddoriaeth, gan weithio ar draws sawl agwedd ar y diwydiant. Heddiw, mae'n byw yng Nghaerdydd lle mae'n gweithio fel cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd llawrydd, yn ogystal â rhedeg stiwdio a label recordiau. Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd i lawer drwy ei brosiect poblogaidd Band Tŷ Potas, sy'n boblogaidd iawn yn yr Eisteddfod. Mae hefyd yn brysur gyda cherddorfa ukulele yng Nghaerdydd, a sefydlwyd yn wreiddiol i annog dysgwyr Cymraeg. Yn 7 oed, fe benderfynodd Mei ei fod eisiau bod yn ganwr pop, ac fe sefydlodd ei fand cyntaf yn 11eg mlwydd oed. Mae wedi rhannu llwyfan gyda Shaking Stevens a'r grŵp Oasis, ac mae'n rhannu'r hanesion yma ac yn dewis 4 cân sydd wedi gadael argraff arno.
Geraint Evans
2026/11/01
 hithau'n benblwydd S4C yn 44 oed, mae Beti George yn holi Geraint Evans - Prif Weithredwr S4C. Fel mab i weinidog, fe symudodd y teulu sawl gwaith, a bu'n byw yn Three Crosses ger Abertawe, cyn symud i Drawsfynydd, Llanbrynmair ac yna i Bontarddulais. Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac yna i astudio Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd. Bu'n gweithio fel newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd, cyn ymuno hefo S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes. Mae'n Brif Weithredwr S4C ers mis Ionawr 2025. Mae Beti a Geraint yn trafod ei fagwraeth, sefyllfa bresennol S4C, a gobeithion Geraint ar gyfer dyfodol y Sianel a darlledu yng Nghymru.
Mari Grug
2026/10/18
Mari Grug James yw un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C, mae hi'n gyflwynydd ar Heno a Prynhawn Da. Wedi’i magu ym Mynachlog-ddu, dechreuodd ei gyrfa gyda rhaglenni plant cyn symud ymlaen i newyddion a chyflwyno. Ers cael diagnosis o ganser y fron yn 2023, mae hi wedi codi ymwybyddiaeth yn ddiflino drwy ei gwaith darlledu, ei rôl fel llysgennad Ymchwil Canser Cymru, a’r podlediad llwyddiannus 1 mewn 2, a enillodd nifer o wobrau. Yn 2026, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei dewis yn Llywydd Gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd Mari Grug yn ymuno â ni i sôn am ei gyrfa, ei hymgyrchu, a’i thaith bersonol ryfeddol. Mae hi hefyd yn dewis 4 cân yn cynnwys O Magnum Mysterium · Côrdydd. Fe recordiwyd y rhaglen yma cyn ei llwyddiant yn BAFTA Cymru 2026, Mari oedd cyflwynydd gorau'r flwyddyn am y rhaglen Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro, sy'n olrhain y cyfnod wedi iddi gael gwybod ei bod â chanser am yr eildro.
Joseff Gnagbo
2026/10/11
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Joseff Gnagbo. Cafodd Joseff Gnagbo ei eni yn Arfordir Ifori a daeth i Gymru fel ceisiwr lloches yn 2017. Mae o bellach yn byw yng Nghaerdydd. Dysgodd y Gymraeg, ac aeth ymlaen i weithio fel tiwtor Cymraeg. Mae'n ymgyrchydd, athro iaith, ieithydd a cherddor. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae hefyd wedi ymgyrchu dros hawliau ffoaduriaid. Cyn dod i Gymru, roedd yn newyddiadurwr ac yn athro ieithoedd yn Abidjan. Roedd eisoes yn siarad nifer o ieithoedd, gan gynnwys Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg a Swahili. Yn 2025, roedd Joseff yn y newyddion - fel y ffoadur cyntaf i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer y Senedd.
Gav Murphy
2026/10/04
Mae Gav Murphy yn bersonoliaeth adnabyddus ym maes gemau fideo. Mae'n gyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd cynnwys, ac yn un o wynebau mwyaf adnabyddus sianel RKG, lle mae'n cyflwyno fideos, podlediadau ac adolygiadau gemau a ffilmiau. Treuliodd ei blentyndod ym Maes y Cymer ger Caerffili, lle bu'n byw tan 2003. Yn y flwyddyn honno symudodd i Aberystwyth i astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gwblhau ei radd yn 2007. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Ysgrifennu Sgriptiau. Er bod llawer o bobl yn gweld Gav fel y person doniol, y "class clown" sy'n codi calon pawb arall, mae'n cyfaddef bod anfanteision i hynny hefyd. Yn aml, pan mai chi yw'r person sy'n gwneud i bawb chwerthin ac yn codi ysbryd y criw, gall pobl anghofio gofyn sut rydych chi eich hun yn teimlo. Mae wedi profi cyfnodau pan oedd yn teimlo'n isel ac yn cael trafferthion gyda'i iechyd meddwl, ond nid oedd pobl bob amser yn sylweddoli hynny oherwydd y ddelwedd allanol hapus a doniol. Mae'n rhannu hanesion ei fywyd gyda Beti George a hefyd yn sôn am ei gariad Honey Ross.
Sharon King
2026/09/20
Mae Sharon King yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gefndir helaeth mewn ymarfer milfeddygol, ar ôl graddio mewn Gwyddoniaeth Anatomegol o Brifysgol Bryste ac ennill gradd BVetMed o Goleg Milfeddygol Brenhinol Llundain. Cafodd ei chydnabod yn genedlaethol yn 2026 pan enillodd Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA Veterinary Mentor Award) am ei chyfraniad eithriadol at fentora a chefnogi myfyrwyr a chydweithwyr yn y proffesiwn milfeddygol. Cafodd ei chanmol am ei thosturi, ei chefnogaeth bersonol, a’i hymrwymiad i feithrin hyder a datblygiad proffesiynol y genhedlaeth nesaf o filfeddygon. Mae hi hefyd yn gweithio fel milfeddyg 1 diwrnod yr wythnos yn Aberystwyth, ac yn fam i 2 o blant. Sharon oedd y ferch gyntaf i weithio fel milfeddyg yn Nolgellau, ac mae hi'n cofio'n glir cyfnod clyw traed ar genau yn 2001, " mae dal yn fyw yn y cof" a'i effaith ar ffermwyr Cymru. Cawn hanesion difyr ei bywyd, ac mae hi hefyd yn trafod yn agored cyfnodau o iselder mae hi wedi eu profi a sut mae ei ffydd Gristnogol wedi bod o gymorth. Mae ganddi ambell stori ddoniol o'i chyfnod fel milfeddyg ac fe glywn am hanes Oscar y crwban sydd ganddi sy'n 90 mlwydd oed! Fe fydd Sharon hefyd yn dewis 4 cân, Anfonaf Angel, Rhys Meirion a Pharti Cut Lloi yn canu “Dôl y Maen”.
Arwel Hughes
2026/09/13
Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys Môn. Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid Cymraeg ac adnabyddus dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn rhedeg busnes ymgymerwyr angladdau teuluol sydd wedi bodoli ers pedair cenhedlaeth. Fe ddechreuodd Arwel ei yrfa fel DJ yn 13eg mlwydd oed, yn cynnal disgos yn lleol, a bu'n gweithio yn ddiweddarach yr Octagon ym Mangor am 12eg mlynedd. Fo hefyd sy’n gyfrifol am atgyfodi gŵyl Llychlynwyr Amlwch sy’n denu cannoedd o bobl o bob cwr o Brydain i gymryd rhan mewn ‘re-enactments’. Mae wedi mabwysiadu dau o blant ac yn briod gydag Elaine. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys Elin Fflur – Ar Lan y Môr - y gân sy'n mynd ag Arwel yn syth yn ôl i'w blentyndod yn Amlwch.
Nic Parry
2026/08/16
Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau. Cyfreithiwr ifanc oedd Nic bryd hynny, yn sylwebu ar gemau pêl-droed ac yn dad ifanc. Ers hynny, mae wedi dringo i frig ei broffesiwn gan ddod yn Farnwr, tra'n parhau â'i waith fel un o sylwebwyr pêl-droed mwyaf adnabyddus Cymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd Llys yr Eisteddfod ac, erbyn hyn, yn daid balch. Yn ystod y sgwrs mae cyfle i edrych yn ôl dros daith ryfeddol o dri degawd, gan olrhain y datblygiadau yn ei yrfa a'i fywyd personol ers ei ymddangosiad cyntaf ar y rhaglen. Hefyd, mae'n trafod yr heriau sy'n wynebu carchardai ym Mhrydain, cyflwr y system gyfreithiol, a'i bryder cynyddol am effaith newid hinsawdd.
Vaughan Roderick
2026/08/02
Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy’n adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon. Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle mae’n cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno’r podlediad poblogaidd Gwleidydda ochr yn ochr â Richard Wyn Jones. Yn y rhaglen, cawn glywed hanesion difyr ei fywyd a’i fagwraeth. Yn fachgen ifanc, roedd yn cadw ieir ac yn eu henwi ar ôl gwleidyddion y dydd. Datblygodd y diddordeb mewn gwleidyddiaeth a hanes yn ifanc iawn. Mae’n cofio etholiad cyffredinol 1964 yn fyw, er mai tua saith oed yn unig oedd pan gafodd ei gynnal. Yn y blynyddoedd wedyn, bu’n dilyn rhai o isetholiadau mawr y 1960au, gan fynd gyda’i dad i gyfarfodydd ac ymgyrchoedd mewn ardaloedd fel Gorllewin y Rhondda a Chaerffili. Yn yr ysgol, roedd Hanes a Hanes Cymru ymhlith ei hoff bynciau. Mae Vaughan hefyd yn trafod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, pan oedd y mudiad cenedlaetholgar a diwylliannol Cymraeg yn arbennig o gryf. Wedi gadael y brifysgol, bu’n gweithio yn Sain Ffagan yn archifo sgyrsiau llafar cyn dechrau ei yrfa ddarlledu gyda gorsaf radio fasnachol CBC. Yn ddiweddarach, ymunodd â’r BBC, lle sefydlodd ei hun fel un o newyddiadurwyr gwleidyddol amlycaf Cymru. Mae’n mynegi pryder am ddyfodol newyddiaduraeth, gan dynnu sylw at y cyflogau isel sy’n wynebu llawer sy’n dechrau yn y proffesiwn heddiw. Mae hefyd yn edrych yn ôl ar ddiwylliant ystafelloedd newyddion hanner canrif yn ôl, gan gynnwys y diwylliant yfed a oedd yn rhan amlwg o’r byd hwnnw ar y pryd. Fel rhan o’r sgwrs, mae Vaughan yn dewis pedair cân sydd yn arbennig iddo, gan gynnwys Emyn Groeswen a Rhywle Draw Dros yr Enfys gan Tara Bethan.
Hedydd Hughes
2026/07/26
Hedydd Hughes yw gwestai Beti George. Mae hi wedi ymroi i ddiogelu traddodiadau ac etifeddiaeth ardal Sir Benfro. Mae wedi sefydlu gwefan sydd yn casglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn cyflwyno chwedlau ac arferion yr ardal. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect oedd yn canolbwyntio ar gyfoeth ieithyddol y Sir. Mae hi'n fam i 3 o blant ac yn byw yn Pen-caer, ac yn cadw bythynnod gwyliau. Mae hi wedi dewis caneuon gan fandiau o'r ardal ac mae aelodau o'i theulu yn chwarae ynddynt sef Lafant, Bwca a Y Dhogie Band. Cawn hefyd glywed ei thafodiaith hyfryd wrth iddi ddarllen darn bach o Bwll Deri.
Dr Simon Brooks
2026/07/19
Mae Dr Simon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, sy’n gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus. Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel cyn-olygydd cylchgrawn Barn ac fel awdur llyfrau dylanwadol megis Pam na fu Cymru a Hanes Cymry. Yn ogystal â’i waith academaidd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a pholisi cymunedol, gan ddylanwadu ar ddatblygu polisïau cyhoeddus yng Nghymru. Simon wnaeth hefyd sefydlu y cylchgrawn Tu Chwith. Fe fydd yn cyhoeddi llyfr arall yn yr Hydref o'r enw Lloegr Gymraeg, ac mae'n trafod y llyfr yma gyda Beti George. "Mae'n bosib y bydd AI yn achub y Gymraeg" mae hefyd yn sôn am newid hinsawdd a'r heriau ddaw gyda hynny, ac yn trafod sut y gwnaeth y capeli Cymraeg achub yr iaith yn eu dydd. Mae hefyd yn wynebu heriau gyda'i iechyd, ac yn trafod ei ddiagnosis o Myeloma a'r driniaeth ryfeddol mae e'n ei derbyn ym Manceinion, a'r gofal arbennig mae o wedi ac yn ei dderbyn yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Mae'n hoff o gefnogi tîm pêl-droed Porthmadog, ac yn dad i 2 o blant. Un o'r dewisiadau cerddorol yw Haf yn Llundain gan Treiglad Pherffaith, gan iddo gael ei eni yn Llundain ac mae'r gan yn sôn am fywyd yn Llundain yn yr 80au - ac mae'n falch o fod yn Gymro o'r brifddinas.
Emyr Gibson
2026/07/12
Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd, sy’n adnabyddus hefyd am chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp Trio ers 2013. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle mae’n defnyddio cerddoriaeth i gefnogi trigolion sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu, theatr a radio, gan gynnwys cyfraniadau i MônFM. Mae hefyd yn gwneud gin. Mae'n Dad balch i ddwy ferch, ac yn dewis 4 can gan gynnwys 'Sa Neb Fel Ti gan Eden.
Phyllis Kinney
2026/07/06
Rhaglen o'r archif lle mae Beti George yn holi y diweddar Phyllis Kinney, nôl yn 1997. Roedd y gantores Phyllis Kinney, a'i diweddar ŵr, Dr Meredydd Evans, yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau pwysicaf a mwyaf dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Er iddi ddechrau ei gyrfa fel cantores opera yn yr Unol Daleithiau, daeth cerddoriaeth werin yn ganolog i fywyd a gwaith Phyllis. Yng Mangor y cyfarfu â'r ysgolhaig a'r cerddor gwerin Merêd Evans, ac fe briododd y cwpl cyn symud i fyw i'r Unol Daleithiau ar ddechrau'r 1950au. Wedi iddynt ddychwelyd i Gymru, ymroddodd Phyllis a Merêd i gasglu, diogelu a hyrwyddo traddodiad canu gwerin Cymru, gan sicrhau bod caneuon gwerin yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Cyfrannodd Phyllis yn helaeth at y maes drwy gyhoeddi erthyglau, papurau academaidd a llyfrau uchel eu parch ar gerddoriaeth. Dyma gyfle i wrando ar y sgwrs gynnes a chofiadwy Phillys Kinney gyda Beti George yn 1997.
Lili Mai Jones
2026/07/05
Gwestai Beti George yw y pêl-droediwr Lili Jones o Wrecsam. Fe dreuliodd 4 tymor yn chwarae i Everton gan ddechrau yn 12 mlwydd oed, yna fe ymunodd a thîm merched Wrecsam ble mae hi'n byw ac yn paratoi i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf. Fe gafodd ei derbyn i'r Orsedd llynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ac mae hi hefyd yn ymddangos yn y gyfres ffilm boblogaidd 'Welcome to Wrexham' gyda dau actor Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Mae Lili'n sôn sut mae pêl droed a chwaraeon yn medru helpu iechyd meddwl ac yn dewis 4 cân yn cynnwys cân gan Ryan a Ronnie.
Eurig Wyn Jones
2026/06/28
Eurig Wyn Jones sydd yn wreiddiol o'r Fali, Ynys Môn, yw gwestai Beti George. Dechreuodd Eurig ei yrfa gyda chwmni Barcud Cyf ynystod y 1990au, gan weithio ar raglenni fel Noson Lawen, Slot Sadwrn a Noc Noc yn yr adran sain. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd bum mlynedd yn Llundain fel dadansoddwr patentau, cyn gweithio i Sony yn yr Almaen fel peiriannydd patent. Yn ddiweddarach, bu’n gweithio gyda Johnson & Johnson yn y maes diabetes, lle ysgogwyd ef i ddatblygu ffordd well o fonitro lefelau glwcos. Arweiniodd hyn at sefydlu Ego Medical, cwmni a gododd €130 miliwn i ddatblygu monitor glwcos parhaus, er na lwyddodd y cynnyrch i gyrraedd y farchnad. Wedi hynny, cwblhaodd ei gymwysterau fel atwrnai patentau, gan barhau i weithio ym maes eiddo deallusol. Yn fwy diweddar, mae wedi canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), sydd bellach yn rhan allweddol o’i waith. Yn 2017, aeth Eurig i Awstralia i siarad mewn cynhadledd ar ddeallusrwydd artiffisial a phatentau. Yn dilyn marwolaeth sydyn ei dad, dechreuodd ailystyried ei ddyfodol a theimlo bod angen newid cyfeiriad, gyda’r gobaith o ddychwelyd i Gymru rhyw ddydd. Mae hefyd yn myfyrio ar ei benderfyniad i sefydlu ei gwmni yn yr Almaen yn hytrach nag yng Nghymru oherwydd diffyg buddsoddiad a chyfleoedd ar y pryd. Yn ystod y sgwrs, mae’n rhannu sawl hanes difyr am ei fywyd ac yn dewis pedair cân arbennig iddo, gan gynnwys traciau gan Celt a Mei Gwynedd.

Podcast reviews

Read Beti a'i Phobol podcast reviews


5 out of 5
2 reviews

Podcast sponsorship advertising

Start advertising on Beti a'i Phobol relevant audience podcasts


What do you want to promote?