1475100056
Y Coridor Ansicrwydd

Advertise on podcast: Y Coridor Ansicrwydd

Rating
★★★★★
5
from
1 reviews
Categories
Country
United States
This podcast has
58 episodes
Language
English
Explicit
No
Date created
2019/08/01
Latest episode
2026/10/22
Average duration
52 min.
Release period
8 days

Description

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

Unlock Y Coridor Ansicrwydd podcast Email contact info,
Listeners & Audience details

Email contact information

Direct podcast contact details

Listeners

Audience numbers & engagement insights

Audience details

Podcast Insights

Podcast episodes

Check latest episodes from Y Coridor Ansicrwydd podcast


Ges di air efo Parky?
2026/10/22
Aeth Mal i'r Cae Ras i wylio Wrecsam yn curo Preston yn hawdd - ond chafodd o ddim ei blesio gan y perfformiad, na chwaith cyfle i holi'r rheolwr Phil Parkinson am ei dactegau wedi'r gêm. Ydi Parkinson wir o dan bwysau a hwythau dim ond tri phwynt yn fyr o safleoedd y gemau ail-gyfle yn y Bencampwriaeth. Er colli i West Ham, parhau i edrych i lawr ar bawb mae Abertawe. A does gan Ows ddim amheuaeth o gwbl mai gwrthod unrhyw demtasiwn i adael byddai'r rheolwr Vitor Matos pe bai unrhyw glwb yn ei dargedu.
Norwy nesa' i Gymru ac Abertawe yn mynd o nerth i nerth
2026/10/15
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiad Cymru yn erbyn Albania sydd wedi mynd a thîm Rhian Wilkinson gam yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd 2027. Norwy fydd y gwrthwynebwyr nesa'...a chyfle i brofi pwynt yn erbyn y cyn rheolwr Gemma Grainger. Ac wrth i Abertawe eistedd ar frig y Bencampwriaeth wedi 10 gêm gynta'r tymor, ydi hi'n amser dechrau ystyried bod ganddyn nhw'r gallu i ennill y gynghrair?
Dylan Lawlor a chanlyniadau Cymru
2026/10/07
Mae Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn cael cwmni amddiffynnwr ifanc Caerdydd a Chymru Dylan Lawlor, ychydig funudau ar ôl iddo gamu oddi ar y cae ymarfer. Mae Lawlor yn ysu i gychwyn y tymor oddi ddifri ar ôl i anaf i'w ben-glin olygu mai dim ond wyth munud o bêl-droed mae o wedi ei flasu - a hynny ym muddugoliaeth gyntaf Caerdydd o'r tymor yn erbyn Charlton. Mae o hefyd yn ysu i gael y cyfle i brofi ei hun yn ebryn Erling Haaland a Cristiano Ronaldo fis nesaf. Chafodd ddim y cyfle i wneud hynny mis yma oherwydd ei anaf, wrth i Gymru chwarae pedair gêm anodd iawn yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Daeth y cyfnod heriol i ben wrth golli o gôl i ddim yn erbyn Denmarc, ond cyn hynny, codwyd calonnau pawb gyda'r fuddugoliaeth nodedig yn erbyn Norwy. Felly, beth ydan ni a Chymru wedi ei ddysgu o'r gemau yma..?
Lle mae Cymru yn mynd o fa'ma?
2026/10/01
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros ddau ganlyniad siomedig i Gymru yn erbyn Portiwgal a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Tra bod yna falchder yn y perfformiad wrth golli yn Lisbon, mae'r perfformiad yn Copenhagen wedi codi cwestiynau dyrys dros safon y garfan a thactegau'r hyfforddwr Craig Bellamy. A chyda gemau cartref yn erbyn Norwy a Denmarc i ddilyn, mae'n bosib iawn fydd rhediad heb ennill Cymru yn ymestyn i wyth gêm. Doedd dim modd anwybyddu'r stori fawr am euogrwydd Manchester City am dorri rheolau gwario Uwch Gynghrair Lloegr, ac mae'r criw yn cofio nôl i 1994 pan ddaeth torf o 3,250 i wylio Porthmadog yn erbyn Bangor.
Mae'r Ronaldo bach 'na yn ei chael hi!
2026/09/24
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu gobeithion Cymru mewn gemau oddi cartref heriol yn erbyn Portiwgal a Denmarc.
Bellamy, Parkinson a dannedd yn hedfan
2026/09/17
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried os ydi rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi tawelu'r amheuon wrth ymateb i gwestiynau am ei drafodaethau efo Burnley. Roedd yna "ddiffyg parch" gan Bellamy yn ôl Malcolm, tra bod Owain yn credu bod yr holl broses yn rhywbeth cyffredin iawn yn y byd pêl-droed. Un peth anghyffredin iawn, serch hynny, ydi'r pwysau mae rheolwr Wrecsam Phil Parkinson yn ei deimlo ar ôl cychwyn hynod siomedig i'r tymor, gafodd ei amlygu gan y grasfa o 6-0 yn West Ham. Fydd y perchnogion hyd yn oed ystyried diswyddo'r rheolwr o gofio ei holl lwyddiant? Ac mae dannedd Malcolm yn creu trafferth iddo unwaith eto, ac yn peryglu diogelwch Dylan!
Rwbath efo Mick Jagger
2026/09/10
Penodiad Ashley Williams ac Alan Sheehan i dîm hyfforddi Craig Bellamy gyda Chymru sy'n hawlio prif sylw Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones ar y bennod yma. Mae 'na gryn edrych ymlaen hefyd i gynhadledd y wasg wythnos nesaf pan fydd Bellamy yn cael ei gwestiynu am y tro cyntaf am ei gysylltiadau gyda Burnley dros yr haf. Mae'r bennod yn cael ei amharu gan argyfwng Mal gyda'i giw iâr, a tydi ei hwyliau'n gwella dim wrth i Owain wrthod datgelu sut gafodd o docyn i eistedd nesaf i Mick Jagger yn Stadiwm Emirates dydd Sul.
Abertawe ar y brig, Caerdydd a Wrecsam dal heb ennill
2026/09/02
Tair buddugoliaeth, un gêm gyfartal ac mae Owain Tudur Jones yn barod yn breuddwydio am flasu'r bwyd ysblennydd sydd ar gael i'r wasg gan glybiau Uwch Gynghrair Lloegr. Do, mae Abertawe wedi cael cychwyn calonogol iawn i'r tymor ac yn eistedd ar frig y Bencampwriaeth. Ac i ychwanegu at y gobaith am dymor llwyddiannus, mae'r clwb wedi bod yn brysur yn ystod y ffenestr trosglwyddo, ac wedi llwyddo i ddal eu gafael ar Zan Vipotnik. Ond siawns bod hi bach yn gynnar i ddechrau meddwl am ddyrchafiad. Does fawr i'w ddathlu ymysg cefnogwyr Wrecsam wrth iddyn nhw barhau aros i weld y Cochion yn ennill. Mae'r clwb wedi bod yn gwario eto ar chwaraewyr newydd, ond tydi Dylan Griffiths na Malcolm Allen yn siŵr os ydi'r wynebau newydd wedi gwella safon y garfan. Tydi Caerdydd heb wario, a rhai yn cwestiynu ymroddiad y perchennog Vincent Tan. Ac ydi Caernarfon wedi darganfod seren newydd..?
Syrthio mewn cariad yn Aberystwyth yn 15 oed
2026/08/27
Beth oeddech chi'n neud yn 15 mlwydd oed? Ddim yn chwarae i Gaerdydd, mae hynny'n sicr. Ond dyna mae Noah Anyadike wedi ei gyflawni ar ôl cael ei ddewis i gychwyn mewn gêm yng Nghwpan y Gynghrair i'r Adar Gleision. Yn sicr, mae gan y rheolwr Brian Barry-Murphy meddwl mawr o'r Cymro ifanc. Ai dyma'r seren nesaf i gamu allan o'r academi? Ychydig wythnosau'n ôl, roedd Bobby Kamwa yn arwr i gefnogwyr Casnewydd. Tydi o ddim bellach. Aeth Kamwa rhy bell wrth ddathlu yn wynebau'r cefnogwyr Casnewydd ar ôl sgorio i'w glwb newydd Bristol Rovers? Owain Llŷr sy'n ymuno gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.
Cychwyn calonogol i bawb
2026/08/20
Pwynt yr un i Gaerdydd a Wrecsam; buddugoliaeth yr un i Abertawe a Chasnewydd - roedd yna rywbeth i bawb ar benwythnos agoriadol y tymor i'r clybiau EFL. Ai dyma'r tymor fydd Rubin Colwill yn torri mewn i gynlluniau Craig Bellamy? Lle mae Wrecsam angen cryfhau? Fydd Zan Viponik dal yn Abertawe wythnos nesaf? Ydi Hayden Mullins wedi darganfod y gyfrinach yng Nghasnewydd? Ac mae Owain a Malcolm yn talu teyrnged i Darren Thomas, wrth i'r Cofi Messi benderfynu dod â gyrfa 15 mlynedd gyda Chaernarfon i ben. Owain Llyr sy'n cyflwyno.
Colli dannedd a siom 'Sdeddfod
2026/08/12
Ar drothwy tymor newydd, mae'n amser proffwydo unwaith eto wrth i Abertawe, Caerdydd a Wrecsam gystadlu yn erbyn ei gilydd yn ail haen Lloegr am y tro cyntaf ers tymor 1981-82. Pwy fydd yn gorffen uchaf? Fydd unrhyw un yn cael dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair? Mae gan Brennan Johnson gartref newydd arall wrth iddo adael Crystal Palace am Everton. Fydd David Moyes yn gallu datgloi'r gyfrinach i gael y gorau allan o ymosodwr Cymru? Ond cyn hynny mae angen trafod a dadansoddi'r siom o beidio ennill gwobr podlediad chwaraeon gorau Cymru yng Ngwobrau Pod Cymru ar faes yr Eisteddfod. O, ac mae Mal wedi colli ei ddannedd!
Newid rhwng dau gar mewn maes parcio
2026/08/05
Ar drothwy tymor newydd, mae'n teimlo fel bod y byd pêl-droed wedi ei throi ar ei phen. Pwy feddylia fod llywydd Fifa, Gianni Infantino, yn cynllunio i werthu Cwpan Y Byd? Wel, mae’r ymateb wedi bod yn chwyrn, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar flaen y gad. Testun balchder i’r criw Coridor yn sicr. Roedd ‘na gychwyn addawol i’r Cymru Premier, sydd ar ei newydd wedd, wrth i’r cefnogwyr heidio i’r gemau agoriadol. Fydd y diddordeb yn parhau tan fisoedd oer y gaeaf, a fydd ‘na glwb yn gallu herio’r Seintiau Newydd erbyn hynny? Ac wrth i Joe Allen baratoi i gael ei dderbyn i gylch yr Orsedd yn Eisteddfod y Garreg Las, Ows sy’n esbonio’r her o geisio esbonio i’w ffrind a'i wraig beth yn union fydd yn digwydd, a pham, yn ystod y seremoni urddo.
Cwpan y byd a chlybiau Cymru yn Ewrop
2026/07/22
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych yn ôl ar rownd derfynol y Cwpan y byd, y sioe hanner amser ag yn dewis chwaraewr y twrnament. Mae'r tri hefyd yn ceisio ffeindio ateb i broblemau timau domestig Cymru yn Ewrop.
Croeso adra, cynffon rhwng y coesau!
2026/07/16
Heb os, mae 'na ddathlu, ac elfen o ryddhad ymysg y criw, bod Lloegr wedi methu â chyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd. Yr Ariannin aeth a hi yn Atlanta, wrth i'r dewin bach Lionel Messi ddangos ei allu arbennig unwaith eto. Ond mi oedd y Saeson yn agos iawn at ennill - tybed os mai penderfyniadau tactegol y rheolwr Thomas Tuchel oedd ar fai? A sôn am agos, mae'r ras i ennill gem y broffwydo Cwpan y Byd mor gyffrous ag erioed... gydag enw annisgwyl iawn bellach wedi cyrraedd brig y tabl.
Ffwlbri Fifa, paffwyr Paraguay a tactegau Tuchel
2026/07/07
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros wythnos o ddigwyddiadau rhyfeddol yng Nghwpan y Byd. Mae'r tri hefyd yn crynhoi perfformiadau Cymru ym Mhencampwriaeth dan19 Ewrop ac yn ystyried pa fath o reolwr fyddai'n fodlon gweithio o dan Huw Jenkins yng Nghasnewydd.

Podcast reviews

Read Y Coridor Ansicrwydd podcast reviews


5 out of 5
1 reviews

Podcast sponsorship advertising

Start advertising on Y Coridor Ansicrwydd relevant audience podcasts


What do you want to promote?