
Advertise on podcast: Y Busnes Rhedeg 'Ma
This podcast has
16 episodes
Language
EnglishPublisher
Owain SchiavoneExplicit
No
Date created
2020/07/26
Latest episode
2021/11/17
Average duration
60 min.
Release period
36 days
Description
Podlediad rhedeg Cymraeg yn trin a thrafod newyddion rhedeg, hyfforddi a mwy, ynghyd â chyfweliadau gyda rhedwyr Cymreig. Cyflwynir gan Owain Schiavone Welsh language running podcast featuring news, training and interviews. Presented by Owain Schiavone.
Unlock Y Busnes Rhedeg 'Ma podcast Email contact info,
Listeners & Audience details
Email contact information
Direct podcast contact details

Listeners
Audience numbers & engagement insights

Audience details
Podcast Insights

Podcast episodes
Check latest episodes from Y Busnes Rhedeg 'Ma podcast
Pennod 1 (cyfres 2) - Dyfed Whiteside-Thomas
2021/11/17
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 - y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Pennod 13 - Adolygiad efo Arwel
2021/07/26
Pennod fach wahanol y tro yma, cyfle i ddal fyny a thrafod sawl peth o'r byd rhedeg gydag Arwel Evans o Running Review Cymru. Mae rasio'n dechrau nôl yn raddol felly mae'n gyfle i drafod rhai o'r rasus sydd wedi digwydd yng Nghymru gan gynnwys 10K Nick Beer yn Llandudno a chyfres 5K Athletau Cymru yn Y Rhyl a Phenbre.
Mae'n gyfle hefyd y gael rhagolwg fach o athletau'r Gemau Olympaidd, y gobeithion Cymreig gyda Jake Hayward, ac ambell uchafbwynt arall o'r amserlen.
Pennod syml, dim nonsens - rhowch wybod eich barn ac os hoffech chi glywed mwy o'r rhain yn y dyfodol.
Pennod 12 - Dr Ioan Rees
2021/05/25
Bydd llawer iawn o bobl yn gyfarwydd â Dr Ioan Rees diolch i gyfres deledu boblogaidd Ffit Cymru ar S4C, ond efallai mai llawer llai fydd yn gwybod ei fod hefyd yn athletwr dycnwch llwyddiannus. Mae Ioan yn un o arbenigwyr Ffit Cymru, ac mae'r seicolegydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant y gyfres, a'r rhai sy'n cymryd rhan ynddi yn eu hymdrechion i golli pwysau a byw yn fwy iach. Ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o ymgymryd â phroses debyg ei hun wrth iddo golli 6 stôn dros gwta 9 mis er mwyn cymryd rhan yn ei Ironman cyntaf yn 2009. Ers hynny, mae wedi cwblhau 5 Ironman arall gan ddod a'i amser lawr i 12 awr.
Mae'r sgwrs gyda Dr Ioan yn amserol iawn wrth i gyfyngiadau Covid lacio ac wrth i ni obeithio gweld rasio'n dychwelyd i Gymru, a'r heriau seicolegol sy'n ein wynebu i gyd gyda hynny. Mae ganddo lawer o gyngor ardderchog i athletwyr ar bob lefel hefyd, ac mae rhywbeth i bawb yn y sgwrs heb os.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl newydd Y Cledrau, 'Hei Be Sy' sydd allan ar label I KA CHING. Ac mae fideo gwych ar gyfer y sengl ar YouTube.
Pennod 11 (Rhan 2) - Angharad Mair
2021/04/28
Ail ran y sgwrs gyda'r gyflwynwraig, ac un o redwyr marathon gorau Cymru erioed, Angharad Mair. Yn y rhan yma o'r sgwrs rydym yn trafod comeback Angharad i redeg ar ôl tua 15 mlynedd i ffwrdd o'r gamp, a'i llwyddiannau anhygoel wedi hynny. Rydym hefyd yn trafod y ffaith ei bod wedi ail-ddechrau eto erbyn hyn ar ôl cyfnod (byrrach) i ffwrdd, a'i chynlluniau a gobeithon ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd cyfle i drafod rhywfaint ar sefyllfa darlledu rasys rhedeg, a'r cyfleoedd sydd i ddarlledwyr.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Adfywio' sef sengl newydd The Gentle Good, allan ar label Bubblewrap Records nawr.
Mae'r bennod hefyd yn trafod Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer a Marathon Shepperdine. Dyma ddolenni i ganlyniadau llawn rhain:
Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer
Marathon a Hanner Marathon Shepperdine
Pennod 11 (Rhan 1) - Angharad Mair
2021/04/21
Y gwestai diweddaraf i ymuno ag Owain Schiavone ar Y Busnes Rhedeg Ma ydy Angharad Mair. Mae Angharad wrth gwrs yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg fel un o gyflwynwyr amlycaf Cymru. Ond ar un pryd, Angharad oedd rhedwraig marathon gorau Cymru hefyd. Mae ei hamser gorau o 2:38:47 dros y pellter ym 1996 yn dal i'w gosod yn y 10 Uchaf o ferched Cymreig erioed, ac fe gafodd y cyfle i redeg ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Athen y flwyddyn ganlynol. Er iddi roi'r gorau i redeg am 15 mlynedd flwyddyn yn dilyn anaf ym 1998, fe ail-gydiodd ynddi fel rhedwr hŷn, a llwyddo i dorri record Ewrop yn y categori oedran V55! Mae hanes Angharad yn un hynod o ddifyr, gymaint felly nes bod digon o ddeunydd i rannu'r bennod yn ddau - bydd yr ail ran yn ymddangos wythnos nesaf.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl Griff Lynch, 'Os Ti'n Teimlo', sydd allan ar label Lwcus T nawr. Mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar.
Pennod 10 - Andrew Davies
2021/04/02
Andrew Davies ydy gwestai diweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma yng nghwmni Owain Schiavone. Mae Andy'n un o redwyr pellter, a rhedwyr marathon yn benodol, gorau Cymru ers sawl blwyddyn bellach ac wedi bod y ddwy bencampwriaeth Gemau'r Gymanwlad ynghyd â Phencampwriaethau Athletau'r Byd unwaith. Mae o hefyd yn gyn bêl-droediwr lle broffesiynol sydd wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru gyda Caersws. Yn Rhagfyr 2019 llwyddodd Andy hefyd i dorri'r record Brydeinig ar gyfer y marathon ar gyfer dynion dros 40 oed - roedd darn ar y blog ynglyn â hyn wrth iddo redeg 2:14:36 yn Valencia.
Mae'r sgwrs wedi ei recordio ychydig ddyddiau ar ôl i Andy redeg yn nhreialon marathon Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Siapan fis Gorffennaf felly cawn glywed ei argraffiadau ar y ras unigryw a hynod honno. Mae'n gyfle hefyd i drafod ei hanes fel rhedwr marathon, rhedeg mynydd a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Sgwrs ddifyr efo boi da.
Cerddoriaeth y bennod yma - '400+' gan Omaloma sydd allan ar yr EP 'Roedd' (Recordiau Cae Gwyn). Mwy am yr EP ar wefan Y Selar.
Pennod 9 (Rhan 2) - Nia Davies a David Cole
2021/02/24
Dyma ail hanner y sgwrs gyda Nia Davies a David Cole, y ddeuawd sy'n gyfrifol am bodlediad triathlon Nawr yw'r Awr. Yn y bennod yma rydyn ni'n trafod rhai o'r heriau rhedeg uchelgeisiol mae David wedi'u taclo dros y misoedd diwethaf, a sut mae Nia yn ymdopi gyda dal ati i hyfforddi yn ystod ei beichiogrwydd.
Cofiwch chwilio am Nawr yw'r Awr ar eich chwaraewr podlediadau a gwrando nôl ar gymaint â phosib o'r penodau.Mae'r penodau canlynol yn arbennig o berthnasol i'r hyn rydyn ni'n trafod yn y sgwrs yma:
Rhedeg yr Adfent gyda Guto Jones
Llwybr Arfordir Ceredigion
Shanghai Ironman 70.3
Cerddoriaeth y bennod: 'Rhwng Dau' gan Sywel Nyw gyda Casi Wyn (allan ar label Lwcus T)
Pennod 9 (Rhan 1) - Nia Davies a David Cole
2021/02/17
Ym mhennod ddiweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma mae Owain yn cael cwmni y cwpl o Aberteifi sy'n gyfrifol am bodlediad triathlon Nawr yw'r Awr. Lansiwyd y pod ym mis Mehefin 2020, ac fe wnaethon nhw gyhoedd 25 pennod wythnosol yn y gyfres gyntaf. Maen nhw wedi cyfweld llwyth o athletwyr ac enwogion o'r byd chwaraeon, ynghyd ag arbenigwyr mewn maesydd penodol o fyd y campau. Mae wir yn werth i chi chwilio am Nawr yw'r Awr ar eich chwaraewr podlediadau a gwrando nôl ar gymaint â phosib o'r penodau.
Roedd cymaint i'w drafod nes bod rhaid rhannu'r bennod yn ddwy ran. Yn y cyntaf, rydan ni'n trafod Nawr yw'r Awr, hanes Nia a Dai fel rhedwyr, a'r gobeithion o weld digwyddiadau mawr triathlon a rhedeg yn dychwelyd yn fuan.
Rhan 2 i ddilyn yn fuan!
Cerddoriaeth y bennod: 'Breuddwyd' gan Eädyth (allan ar Recordiau UDISHIDO)
Pennod 8 - Math Llwyd
2021/01/21
Podlediad cyntaf Y Busnes Rhedeg 'Ma yn 2021, ac mae Owain unwaith eto'n cael cwmni cerddor, sef Math Llwyd sy'n aelod o'r band gwych Y Reu. Mae Math hefyd yn redwr da, ac yn aelod brwd o glwb Harriers Eryri. Yn ystod mis Ionawr, mae o, gweddill aelodau Y Reu, a chwpl o gerddorion eraill yn gwneud her 'High and Dry' er mwyn codi arian at elusen Banc Bwyd Arfon. Y nod ydy codi £1000 at yr elusen trwy redeg 870 o filltiroedd a gallwch eu cefnogi trwy'r safle Just Giving.
Yn y sgwrs mae Math yn trafod bach ar gerddoriaeth, sut y dechreuodd redeg, Parkrun yn Awstralia, y Rock and Roll Marathon yn Lerpwl ac ambell beth arall.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy Y Reu wrth gwrs, gyda'r diwn 'Mhen i'n Troi' oedd ar yr EP 'Hadyn' a ryddhawyd yn 2015.
Pennod 7 - Elliw Haf
2020/12/22
Ym mhennod ddiweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma mae Owain Schiavone yn cael cwmni rhedwraig Harriers Eryri a Chymru, Elliw Haf. Mae Elliw wedi cael cryn lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y brig (yn llythrennol) trwy gynrhychioli Cymru yn Ras yr Wyddfa ar ddau achlysur. Ym mis Mai, daeth newid ar fyd wrth iddi roi genedigaeth i'w plentyn cyntaf ac yn y sgwrs mae'n trafod sut y llwyddodd i barhau i redeg yn ystod ei beichiogrwydd, ac ail-ddechrau'n fuan ar ôl yr enedigaeth.
Ar dop y sioe mae Owain yn sôn am ddwy her elusennol sydd ar y gweill gan David Cole a Peter Gillibrand. Dyma'r dolenni os ydych chi eisiau cefnogi'r heriau hynny, a chyfrannu at yr elusennau teimlwng:
David Cole - https://www.justgiving.com/fundraising/MINDAdventCalendarRunningChallenge
Peter Gillibrand - https://uk.virginmoneygiving.com/PeterGillibrand1
Pennod 6 - Dion Jones
2020/11/16
Ym mhennod diweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma mae Owain Schiavone yn cyfuno rhedeg gydag un o'r diddordebau mawr eraill, cerddoriaeth. Y gwestai ydy Dion Jones, canwr a gitarydd y grŵp roc Alffa a grëodd hanes gyda'r gân 'Gwenwyn' - y gân Gymraeg gyntaf i'w ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify (mae wedi croesi 3 miliwn erbyn hyn!) Mae Dion wedi dechrau rhedeg yn ystod y cloi mawr, ac mae'n trafod y budd mae wedi'i gael o hynny a sut mae wedi helpu llenwi'r bwlch o berfformio ar lwyfan. Mae Dion, a chwe cherddor adnabyddus arall, yn gwneud her Tashwedd / Movember ar hyn o bryd gan dyfu mwstash (wel...trio tyfu mwstash) a rhedeg neu seiclo 750km yn ystod y mis. Gallwch eu noddi nawr - https://movember.com/t/tash-mob?mc=1
Cerddoriaeth y bennod yma - 'Gwenwyn' gan Alffa (wrth gwrs).
Pennod 5 - Matthew Roberts
2020/10/20
Ym mhennod ddiweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma mae Owain Schiavone yn cael cwmni'r rhedwr mynydd, Matthew Roberts. Ers diwedd mis Awst, Matthew Roberts sy'n dal y record am amser cyflyma' Rownd y Paddy Buckley yn Eryri - yr her 60+ o filltiroedd sy'n cynnwys 47 o gopaon Eryri. Hon yn ôl llawer, ydy'r galeta' o'r dair rownd glasurol ym Mhrydain sy'n cynnwys y Bob Graham (Ardal y Llynnoedd) a'r Ramsey Round (Yr Alban).
Roedd darn am y record ar flog Y Busnes Rhedeg 'Ma ar y pryd - https://rhedeg.wordpress.com/2020/09/03/math-yn-chwalu-record-y-paddy-buckley/
Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl ddiweddaraf Betsan, 'Ti Werth y Byd', sydd allan ers 2 Hydref 2020.
Cofiwch roi adolygiad bach i'r podlediad os allwch chi, a cysylltwch gydag unrhyw sylwadu.
Podcast reviews
Read Y Busnes Rhedeg 'Ma podcast reviews
Podcast sponsorship advertising
Start advertising on Y Busnes Rhedeg 'Ma relevant audience podcasts
You may also like to advertise on these Podcasts

4.522396
The Native Plant Podcast
Native Plant Podcast

4.4236946
Reuters World News
Reuters

4.7172172
Doing It Together: Making Sense of Low Libido, Sex, and Intimacy in Marriage.
Janna Denton-Howes: Marriage Coach | Sex Educator | Low Libido Expert

4.8194153
Motivational Speeches by Coach Pain and Motiversity
Coach Pain

482000
The Jason Gregor Show
The Jason Gregor Show

56190
The Tea & Trails Podcast
Edwina Sutton & Gary Thwaites

4.8446226
Sentimental Garbage
Justice for Dumb Women

4.7148614
Social Pros Podcast
Convince & Convert

4.516871
Alpinist
Alpinist Magazine

4.8922694
The Meb Faber Show - Better Investing
The Idea Farm