1757256668
Rhaglen Cymru

Advertise on podcast: Rhaglen Cymru

This podcast has
100 episodes
Language
English
Publisher
andybmedia
Explicit
No
Date created
2024/07/14
Latest episode
2026/11/27
Average duration
32 min.
Release period
4 days

Description

Andy Bell a’i westeion yn dathlu darlledu Cymraeg a Chymreig. Y bobl, y rhaglenni, y dylanwad. [email protected]

Unlock Rhaglen Cymru podcast Email contact info,
Listeners & Audience details

Email contact information

Direct podcast contact details

Listeners

Audience numbers & engagement insights

Audience details

Podcast Insights

Podcast episodes

Check latest episodes from Rhaglen Cymru podcast


Kieran Miller - y to ifanc gobeithiol
2026/11/27
Kieran Miller, myfyriwr yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, yw gwestai'r pod. Trafod ei sgŵp eisteddfodol, ei brofiad yn y coleg a'i obeithion am ei yrfa a'r cyfryngau. Sgwrs Kieran gyda Garmon Rhys: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/pod-jomec-cymraeg-82-garmon-rhys/id1541080062?i=1000791193948 XPress Radio: https://www.xpressradio.uk [email protected] Cerddoriaeth gloi: Fersiwn offerynnol o 'Dansevise', cân a ennillodd yr Eurovision i Ddenmarc ym 1963.  https://youtu.be/0sHI1UgVO2s?si=MSp_i8UeXH3Yq1oe
Brittin Yn Y Bae
2026/11/24
Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC Matt Brittin o flaen Pwyllgor Diwylliant Senedd Cymru. Pennod sydyn yn gohebu ar y cyfarfod. Y cyfarfod llawn: https://www.senedd.tv/Meeting/Archive/0b53f13c-a703-4503-9c9b-217102d39c11 [email protected] Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Man In A Suitcase' https://youtu.be/TxbmoNOZzWc?si=gwmn3EOokWRpfMFt
Y Weledigaeth
2026/11/20
Yr arbenigwr cyfathrebu llawrydd Richard Nosworth sy'n cadw cwmni'r tro hwn. Trafod ei waith ynghyd â'i farn am gyflwr y cyfryngau a'r diffyg gweledigaeth wrth wynebu heriau lluosog.  A beth yw dwyieithrwydd da? Dyma gylchlythyr Richard: https://richardnosworthy.cymru/cylchlythyr A'i bodlediad 'Hefyd': https://hefyd.podbean.com Adroddiad Ofcom ar y BBC:  https://www.ofcom.org.uk/siteassets/resources/documents/tv-radio-and-on-demand/bbc/bbc-annual-report/2026/adroddiad-blynyddol-ofcom-ar-y-bbc-2025-2026.pdf?v=428227 [email protected] am sylwadau a syniadau. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'The Newsroom' CBC Canada - dychan arbennig o newyddiaduraeth teledu. i https://youtu.be/pNY_XLh5bAA?si=4X_ZVS9mbqiSST7V
Sŵntrack gyda Joe ... ac Andy
2026/11/13
Un o’r genhedlaeth gyfryngol newydd yw Joe Morgan. Mae ganddo safbwyntiau ac agweddau ffres am greu cynnwys Cymraeg. Dyma ei bodlediad: https://ypod.cymru/pods/podlediad/swntrack A chyfrif insta Joe: https://www.instagram.com/joe_le_potato [email protected] am sylwadau/syniadau Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân ‘Joe 90’ https://youtu.be/2Eb6JrP7d1Y?si=NhWQWBusBXClJPwC
Datganoli darlledu yng Nghaeredin
2026/11/11
Newyddion yn torri ym mhob man. Senedd yr Alban yn pleidleisio dros ddatganoli darlledu a Bae Caerdydd a Whitehall i gwrdd i drafod yr un pwnc. https://www.parliament.scot/chamber-and-committees/votes-and-motions/S7M-01962-2 Hefyd, trafferthion ariannol darlledwr cyhoeddus Gwlad Y Cwmwl Gwyn Hir. https://www.rnz.co.nz/news/politics/2491845/treasury-wants-own-oversight-of-rnz-to-be-part-of-independent-review Mwy am y Cyfrin Gyngor: https://en.wikipedia.org/wiki/List_of_current_members_of_the_British_Privy_Council Sesiwn canolfan Llywodraethiant Cymru - 'Cymru a Siarter newydd y BBC': https://www.eventbrite.co.uk/e/wales-and-the-new-bbc-charter-tickets-2004604089795 [email protected] Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'All Things Considered', NPR: https://youtu.be/u5MKiTdWo4E?si=M0Rwv0FOePdy6i39
Aled Eirug, Ofcom & arian parod
2026/11/07
Aled Eirug yw'r gŵr gwadd - cyn-Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru rhwng 1992 a 2003, cyn-aelod o fwrdd S4C a chyn-gadeirydd Pwyllgor Cynghori Cymru Ofcom. https://www.ofcom.org.uk/cy Gwaith y rheoleiddiwr, ariannu cyfryngau cyhoeddus a llawer mwy yw'r maes trafod. Hefyd, newyddion o bell ac agos am gyllidebau a chymorthdaliadau. @rhaglencymru yw'r Substanck a chyfrif X a BlueSky. [email protected] Cerddoriaeth y bennod: Arian Monty Python: https://youtu.be/vRsrOsWQNYs?si=7Lun-76mxIusMr4Q 'Money, Money, Money': https://youtu.be/FTDTqPK-WH4?si=TQNGcZJgdh40f6lj
"Mae yna heriau mawr, mawr"
2026/11/05
Sylw i'w datganiad "dyfodol y cyfryngau yng Nghymru" a gyflwynwyd i Senedd Cymru ddydd Mawrth. Geiriau trawiadol y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yw teitl y bennod hon. Trawsgrifiad cyflawn o 17:52 ymlaen: https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/16420 Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân y 'Bell Telephone Hour'! https://youtu.be/nTSmd04T4ok?si=OYzRicO5LrOLyJ24 Substack: @rhaglencymru [email protected]
Penblwydd Hapus S4C
2026/11/01
Cyfle i glywed am ddyddiau cynnar Sianel Pedwar Cymru ac ambell i foment gofiadwy o'r noson gyntaf un. Dr Elain Price yw'r gwestai, sgwrs a recordwyd yn 2024 yn nyddiau cynnar y pod. Ei llyfr 'Nid Sianel Gyffredin Mohoni': https://www.uwp.co.uk/book/nid-sianel-gyffredin-mohoni Euryn Ogwen yn trafod noson gyntaf S4C: https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin/2053296-gyntaf-arwyddion-cenedlaethol Eirion Lewis o'r Awdurdod Darlledu Annibynnol yn egluro y gyfundrefn newydd yn ôl 1982. https://transdiffusion.org/2025/11/01/serving-two-cultures Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân wreiddiol rhaglen 'Heddiw' BBC Cymru. [email protected] am sylwadau/syniadau/clecs.
Perygl propaganda
2026/10/30
Propaganda yw testun y bennod hon. Yr awdur Simon Chandler yn trafod 'egwyddorion' gwybodaeth ddethol pennaeth cyfathrebu'r Natsïaid, Joseph Goebbels. Mewn sgwrs am hanes a'r hyn a allai ddod mewn oes o dorri cyfryngau cyhoeddus, mae Simon yn tywys Andy ar hyd llwybr heriol. I ddysgu mwy am 'lyfr chwarae' Goebbels chwiliwch am "Goebbels' Principles of Propaganda" gan Leonard W. Doob. Mae gan Simon dwy nofel - 'Llygad Dieithryn' a 'Hiraeth Neifion' - ewch i wefan Gwasg Carreg Gwalch am fwy o wybodaeth: https://carreg-gwalch.cymru/ Arwyddgân arbennig y bennod: Zu Asche zu Staub (I ludw, i lwch) o gyfres Babylon Berlin. Fersiwn offerynnol: https://youtu.be/1uCTGKhZtA8?si=42duW70aJFfA8E_M Fersiwn ar gân: https://youtu.be/uekZpkYf7-E?si=WKJx4CsA_PL3NuNW @rhaglencymru yw lleoliad y podlediad a'i gynhyrchydd ar Substack a X. [email protected]
Tim Hartley, Seneddwyr a'r Bîb yn Oz
2026/10/23
Pennod hiiiiiiiiiir: sgwrs + tipyn o faterion cyfoes!! 01' 40" Tim Hartley yn trafod cyfathrebu pobl Bae Caerdydd a thrafferthion y BBC. 38' 45" Holi am ddatganoli darlledu yn Senedd Cymru. 44' 55" GB News yn y Bae. 50' 25" Diweddariad parthed polisi iaith GB Music Radio. 52' 40" Y BBC yn symud cynhyrchu newyddion dros nos o’r DU i Oz! [email protected] am sylwadau/syniadau Substack dwyieithog: https://rhaglencymru.substack.com/p/wrth-aros-godot-y-gorfforaeth?r=ddc7m https://rhaglencymru.substack.com/p/remembering-aberfan?r=ddc7m Cerddoriaeth gloi: Cân Elyrch Sydney, tîm AFL y ddinas.  Er gwbodaeth gan gan BOB tim pêl-droed Awstralaidd eu cân eu hunan. https://youtu.be/bI0JAFzTDXc?si=lvbHGCXSeQXGRsvn  https://youtu.be/mF8E6ijvluM?si=lRLELUnVdfkX8wgC
Heriau'r Celtiaid a GB Tiwns
2026/10/20
Pennod PUM iaith!! Datblygiadau cyfryngol yn y gwelydydd Celtaidd + cwmni GB News yn mynd yn gerddorol Brydeinig ... ond pa fath o Brydeinig? [email protected] am sylwadau a syniadau. Cerddoriaeth gloi: https://youtu.be/R8vXnjU-oXo?si=rEoGRfHuVoNB3h5h
Aberfan a'r Cyfryngau
2026/10/15
Roedd trychineb Aberfan yn achlysur a newidiodd newyddiadura yng Nghymru a thu hwnt. Mae Andy yn adrodd sut yr aeth y radio a theledu ati i ohebu a’r ymateb a gafwyd. Dyma ei Substack Saesneg: https://rhaglencymru.substack.com/p/remembering-aberfan?r=ddc7m Ac mewn sgwrs ddadlennol mae’r Athro Martin Johnes, cyd-awdur “Aberfan – Government and Disaster”, yn trafod rhan y cyfryngau yn y digwyddiad. https://www.swansea.ac.uk/cy/staff/m.johnes https://welsh-academic-press.shopfactory.com/contents/en-uk/p58_Aberfan Defnyddwyd agoriad ‘Amor volat undique’ gan Carl Orff, 15fed symudiad “Carmina Burana” i agor a chloi’r bennod. https://youtu.be/MvlEopNnu80?si=CH00tv05NlnoGSCj [email protected]
Rhys Evans BBC
2026/10/12
Un o uwch swyddogion BBC Cymru yw gwestai’r podlediad - Rhys Evans, Pennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus. Mae fe ac Andy yn trafod y torriadau i Radio Cymru + dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Mae Substack y pod eisoes wedi synfyfyrio am y sefyllfa: https://rhaglencymru.substack.com/p/wrth-aros-godot-y-gorfforaeth?r=ddc7m [email protected] am sylwadau a syniadau. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân y gyfres 'That's Life', un o raglenni'r diweddar Esther Rantzen.
Cloddio am straeon
2026/10/08
Beth yw gweledigaeth DG y BBC Matt Brittin? Does dim troi yn ôl gan Blaid Cymru ar bwnc datganoli darlledu. A sgwrs am allu’r camera i hel straeon. Dyna bynciau trafod pennod #130 o’r pod!!!! Sianel You Tube Carwyn Rhys Jones: https://www.youtube.com/@carwynrhysjones287 Peidiwch âg anghofio’r Substack – @rhaglencymru https://rhaglencymru.substack.com/p/ble-mae-prydain-matt-brittin?r=ddc7m Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân un o’r cyfresi teledu mwyaf dadleuol yn y 1960au – ‘Swizzlewick’. https://youtu.be/u6TmZk9RvR8?si=cE1i2Au4NWFajxsb https://televisionheaven.co.uk/reviews/swizzlewick [email protected]
CYIG, DCMS ayyb
2026/10/02
Cadeirydd Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg Owain Meirion yw'r gwestai. Mae'n sôn am deiseb CYIG ynglyn â thoriadau'r BBC a'r ymgyrch sy'n codi yn eu herbyn a thros ddatganoli darlledu.  https://cymdeithas.cymru/newyddion/lansio-deiseb-dros-ddiogelu-darlledu-cymru-2026-09-29 Yna, gohebu gan Andy yn sgîl cyhoeddi adroddiad Pwyllgor yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) am Siarter y BBC.  Yr adroddiad: https://publications.parliament.uk/pa/cm5902/cmselect/cmcumeds/140/report.html Aelodaeth y Pwyllgor: https://committees.parliament.uk/committee/378/digital-culture-media-and-sport-committee/membership Stori Newyddion S4C: https://newyddion.s4c.cymru/article/ffir-drwydded-wedi-dyddio-angen-newid-sicrhau-dyfodol-bbc-asau Substack: https://substack.com/@rhaglencymru [email protected] Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Do Not Adjust Your Set', cyfres o'r 60au a osododd rhai o'r sylfeini i Monty Python! https://youtu.be/tm03Ub5rJm8?si=YCpdzDQadZrM10JR

Podcast reviews

Read Rhaglen Cymru podcast reviews


0 out of 5
0 reviews

Podcast sponsorship advertising

Start advertising on Rhaglen Cymru relevant audience podcasts


What do you want to promote?