264340469
Gwleidydda

Advertise on podcast: Gwleidydda

Rating
★★★★☆
4
from
5 reviews
Categories
Country
United States
This podcast has
144 episodes
Language
English
Explicit
No
Date created
2007/09/14
Latest episode
2026/10/21
Average duration
33 min.
Release period
8 days

Description

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Unlock Gwleidydda podcast Email contact info,
Listeners & Audience details

Email contact information

Direct podcast contact details

Listeners

Audience numbers & engagement insights

Audience details

Podcast Insights

Podcast episodes

Check latest episodes from Gwleidydda podcast


Gair o Gyngor gan yr Arglwydd Wigley
2026/10/21
Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno â Vaughan, Bethan a Richard i drafod ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd. Mae'r tri hefyd yn trafod araith Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ynglyn â datganoli pellach i Gymru a phenderfyniad y Llywodraeth i ohirio'r newidiadau yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn ar gyfer rhaglenni'r dyfodol drwy e-bostio [email protected].
Arian mân?
2026/10/14
Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol. Mae'r tri hefyd yn sgwrsio gyda'r cyn-Aelod o'r Senedd dros y Ceidwadwyr, Sam Kurtz. A chofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r tri trwy e-bostio [email protected]
Beth nesa' i Polanski?
2026/10/09
Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu i arweinyddiaeth Polanski.
Y Pedwar Llew Tew
2026/10/07
Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones. Mae nhw’n trafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth, araith Kemi Badenoch yng Nghynhadledd y Torïaid ac ymddiswyddiad dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Phil Davies. Mae’r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi - cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]
Rhwng Dau Rosyn
2026/09/30
Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl. Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]
Ysgol David Hughes: Eton Cymru?
2026/09/23
Owain Clarke, y gohebydd iechyd sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yr wythnos hon i drafod y rhestrau aros sy'n wynebu'r llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd. Mae'r ddau hefyd yn trafod penodiad dau arweinydd newydd i Reform yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]
Richard yn Rong am Reform
2026/09/16
Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod y trafferthion mae plaid Reform wedi'u hwynebu yn y Senedd yr wythnos hon. Mae cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, hefyd yn ymuno i drafod y goblygiadau o dderbyn aelod sydd wedi croesi'r llawr. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]
Reform - Cai Parry-Jones
2026/09/09
Cai Parry-Jones o blaid Reform UK sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod ei argraffiadau cyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd. Mae’r ddau yn holi Cai am gynhadledd Reform a'r ymchwiliadau i ariannu'r blaid ar hyn o bryd. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]
Penyberth
2026/09/07
Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Yn y bennod yma fe drafodir arwyddocâd y tân a’r effaith ar genedlaetholdeb heddiw, a hynny yng nghmwni Dafydd Iwan, Ian Gwyn Hughes, ŵyr Lewis Valentine, y cyn farnwr Nic Parry a’r hanesydd Mari Wiliam.
Dau Brif Weinidog - Mis Mêl ar Ben?
2026/09/02
Bethan Rhys Roberts a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n trafod dechrau'r tymor gwleidyddol newydd. Mae'r ddwy yn dadansoddi sesiwn PMQs cyntaf y Prif Weinidog Andy Burnham cyn troi at gynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru. Ydy'r cyfnod mis mêl ar ben i'r ddau Brif Weinidog newydd? Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]
Cloch Clacton
2026/08/14
Yn dilyn rhifyn arbennig o'r Babell Lên yn Eisteddfod y Garreg Las, mae Bethan a Richard yn ôl yn y stiwdio yn dadansoddi canlyniad is-etholaiad Clacton on Sea. Arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, yn ennill gyda 63% o'r bleidlais sy'n cael sylw y ddau.
Y Prif Weinidog yn Y Babell Lên
2026/08/07
Bethan Rhys Roberts sy'n holi'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn Y Babell Lên ar faes Eisteddfod y Garreg Las. Mewn sgwrs wedi ei recordio'n fyw o flaen gynulleidfa, mae'r Prif Weinidog yn trafod heriau ei swydd newydd, ei brofiad o lywodraethu, a'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae'r gynulleidfa yn cael cyfle i holi cwestiynau. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]
Amser a ddengys
2026/07/29
Des Clifford, cyn-bennaeth Swyddfa Prif Weinidog Cymru, sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod y gwahaniaethau rhwng dyddiau cynnar y Prif Weinidogion Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod strategaeth y ddau arweinydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn drwy e-bostio [email protected].
Crafu'r Cregyn Llong
2026/07/22
Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod diwrnodau cyntaf seithfed Prif Weinidog y DU mewn degawd, Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod penodiad Stephen Kinnock fel Ysgrifennydd Cymru ac yn holi beth mae ei benodiad yn ei olygu i ddatganoli. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]
Gwynfor a'r Gyllideb
2026/07/15
Wedi sesiwn holi olaf Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae Vaughan a Richard yn trafod ei gyfnod wrth y llyw. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi methiant Llywodraeth Cymru i basio ei chyllideb atodol a'r tensiynau rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru. A 60 mlynedd wedi ethol Gwynfor Evans mae ei gyn-asiant, Peter Hughes-Griffiths yn edrych yn ôl ar lwyddiant y cyfnod a'r hyn yr oedd yn ei olygu i Blaid Cymru.

Podcast reviews

Read Gwleidydda podcast reviews


4 out of 5
5 reviews

Podcast sponsorship advertising

Start advertising on Gwleidydda relevant audience podcasts


What do you want to promote?