972583157
Stori Tic Toc

Advertise on podcast: Stori Tic Toc

Rating
★★★★★
5
from
3 reviews
This podcast has
273 episodes
Language
English
Explicit
No
Date created
2015/03/02
Latest episode
2026/04/28
Average duration
7 min.
Release period
16 days

Description

Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.

Unlock Stori Tic Toc podcast Email contact info,
Listeners & Audience details

Email contact information

Direct podcast contact details

Listeners

Audience numbers & engagement insights

Audience details

Podcast Insights

Podcast episodes

Check latest episodes from Stori Tic Toc podcast


Fi Biau Hwn
2026/04/28
Mae Ela a Dad yn prynu bwyd i swper mewn archfarchnad prysur. Yn sydyn, mae Ela’n dod o hyd i rhywbeth yn y siop. Ond, yr un pryd, mae hi’n colli rhywbeth sy’n bwysig iddi hi hefyd. Ydi’r un sy’n cael yn cael cadw? Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori gan Meleri Wyn James.
Cân Dawel Dryw
2026/04/14
Dyma stori hudolus sy’n dangos pwysigrwydd dathlu ein gwahaniaethau. Er nad yw’r adar eraill yn mwynhau gwrando ar gân Dryw Bach, gyda help ei ffrind, Cnocell, maent yn dysgu bod llais pawb yn sbesial. Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori gan Megan Angharad Hunter.
Dewin a Doti - Sioe Basg Orau'r Byd
2026/03/24
Ydych chi’n barod am stori Tic Toc llawn lledrith a hwyl? Dyma hanes Dewin a Doti a’r het hud, wrth iddyn nhw greu’r Sioe Basg orau yn y byd. Owain Sion sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Dewin a Doti yn Gwersylla
2026/03/10
Mae cyffro mawr yn y Cylch Meithrin wrth i bawb baratoi i fynd ar daith gyffrous yng nghwmni Dewin a Doti. Tra bydd y plant yn teithio ar y bws, ar y Balalŵn fydd Dewin a Doti yn gwibio i gyrraedd lleoliad eu gwyliau. Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori gan Branwen Gwyn.
Cled a'r Anifeiliaid Anhygoel
2026/02/24
Dyma stori Tic Toc am anifail bach arferol sy’n byw mewn gwlad sy’n llawn anifeiliaid rhyfeddol o od. Croeso i wlad anghygoel lle gewch gwrdd â Mwncici, Gwas y Teigr a Mochingen. Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori ei hun.
Ble Mae Pws?
2026/02/10
Mae Pws y gath fach wrth ei bodd yn mynd ar antur. Tybed i ble mae hi wedi mynd heddiw. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Chris Harris.
Maia Non yn Hela Jeli
2026/01/27
Mae Maia Non ar fin cael parti, ond cyn iddo dechrau, mae’n rhaid iddi ddal y jeli! Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Luned Whelan.
Dewin a Doti yn yr Ysbyty
2026/01/13
Dere i wrando ar stori llawn antur a hud gyda Dewin a Doti’r ci, sy'n helpu Martha pan ma' rhaid iddi hi fynd i'r ysbyty. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Meleri Wyn James.
Dewin a Doti Ar y Fferm
2025/12/16
Dere i wrando ar stori llawn antur a hud gyda Dewin a Doti’r ci. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Meleri Wyn James.
Meirwen ar Fferm Ffrwd Ffradach
2025/12/02
Dyma stori am Meirwen y gath yn ymweld â Fferm Ffrwd Ffradach. Ond brensiach, rwy’n siŵr na welsoch chi fferm yn debyg i hon o’r blaen. Mae’r anifeiliaid yn gwneud pethau rhyfedd iawn yma. Owain Sion sy'n adrodd stori gan Rhys Iorwerth.
Bedwyr a'r Beics
2025/11/18
Stori ddoniol a rhyfedd iawn yw hon. Mae Bedwyr a’i ffrindiau wrth eu boddau yn mynd ar eu beics yn y parc, ond mae wiwerod direidus eisiau ymuno yn yr hwyl hefyd. Owain Sion sy'n adrodd stori gan Rhys Iorwerth.
Dewin a Doti - Y Goeden Nadolig
2025/11/04
Mae yna gyffro yn y Cylch Meithrin heddiw. Mae Dewin a Doti wedi dod draw i helpu’r plant i addurno’r goeden Nadolig. Gydag ychydig o hud a lledrith mae’r goeden hon wedi ei haddurno’r ryfeddol o hardd. Owain Sion sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Drws Hudol Dilys
2025/10/21
Dyma stori am antur merch fach o’r enw Dilys sydd ddim yn hoffi cysgu. Lily Beau sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams.
Diwrnod y Gêm Fawr
2025/10/07
Mae diwrnod y gêm fawr wedi cyrraedd. Ydy’r tîm yn ennill neu’n colli, tybed? Lily Beau sy'n adrodd stori gan Zach Mutyambizi.
Y Wrach Fach Flêr
2025/09/23
Dewch i helpu Martha i ddod o hyd i’r sŵn mwya erchyll yn y byd. Beth neu bwy allai fod tybed? Lily Beau sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams.

Podcast reviews

Read Stori Tic Toc podcast reviews


5 out of 5
3 reviews

Podcast sponsorship advertising

Start advertising on Stori Tic Toc relevant audience podcasts


What do you want to promote?