1747262430
Lleisiau Cymru

Advertise on podcast: Lleisiau Cymru

This podcast has
84 episodes
Language
English
Explicit
No
Date created
2024/05/20
Latest episode
2026/10/16
Average duration
24 min.
Release period
9 days

Description

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.

Unlock Lleisiau Cymru podcast Email contact info,
Listeners & Audience details

Email contact information

Direct podcast contact details

Listeners

Audience numbers & engagement insights

Audience details

Podcast Insights

Podcast episodes

Check latest episodes from Lleisiau Cymru podcast


Barod am fwy o Ding Dongio???
2026/10/16
Mae Llŷr a Lisa yn ôl, yn busnesu o gwmpas cartrefi rhai o enwau adnabyddus Cymru. Pwy fydd yn cadw cwmni i Llŷr a Lisa y tro 'ma? Cliw i chi, mae nhw'n mwynhau sgwrsio gyda'u Pobol, boed hynny mewn stiwdio radio neu dan y lloer. Pwy fydd yn holi pwy??? Penodau newydd o Ding Dong ar gael ar 20 Hydref a 03 Tachwedd.
Calan Gaeaf, Coelcerth, Ofergoelion, Ysbryd
2026/10/13
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â geiriau Cymraeg. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon mae nhw'n meddwl am Galan Gaeaf ac ysbrydion. Cynhyrchiad Cwmni Golwg i BBC Radio Cymru.
Ar Ôl y Llosgi
2026/09/08
Aled Hughes ynghyd â'r hanesydd Mari Wiliam ac ambell westai sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl. O edrych ar bwysigrwydd diwylliannol hen dŷ Penyberth, i graffu ar faint yn union wnaeth fynd ati i losgi ar y noson, gan osod y digwyddiad yn ei gyd-destun cenedlaethol, mae Aled a Mari yn mynd o dan groen y Tân yn Llŷn.
Beth Ddigwyddodd ar 8 Medi 1936?
2026/09/08
Aled Hughes ynghyd â'r hanesydd Mari Wiliam ac ambell westai sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl. O edrych ar bwysigrwydd diwylliannol hen dŷ Penyberth, i graffu ar faint yn union wnaeth fynd ati i losgi ar y noson, gan osod y digwyddiad yn ei gyd-destun cenedlaethol, mae Aled a Mari yn mynd o dan groen y Tân yn Llŷn.
Rhyfel Newydd ar y Gorwel
2026/09/08
Aled Hughes ynghyd â'r hanesydd Mari Wiliam ac ambell westai sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl. O edrych ar bwysigrwydd diwylliannol hen dŷ Penyberth, i graffu ar faint yn union wnaeth fynd ati i losgi ar y noson, gan osod y digwyddiad yn ei gyd-destun cenedlaethol, mae Aled a Mari yn mynd o dan groen y Tân yn Llŷn.
Croeso i Tân yn Llŷn
2026/09/05
Aled Hughes a'r hanesydd Mari Wiliam sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl, mewn cyfres newydd sy'n cyhoeddi ar Fedi'r 8fed 2026.
Mentro, Medi, Astudio, Dechrau /Cychwyn, Tymor
2026/09/01
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â geiriau Cymraeg. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon mae nhw'n meddwl am ddechreuadau newydd ac am ail gychwyn pethau. Cynhyrchiad Cwmni Golwg i BBC Radio Cymru.
Barod am fwy o Dim Ond Geiriau?
2026/08/28
Mae Francesca a Stephen yn ôl, yn trafod mwy o eiriau. Hoff eiriau, cas eiriau, geiriau sydd â hanes diddorol, tafodiaith ... tanysgrifiwch i gael gwybod pan fydd pennod newydd yn cyhoeddi.
Cyfres 2, Pennod 3 : Gwennan Young
2026/08/04
Gwennan Young sy'n sgwrsio gyda Bethan Richards am ei gwaith yn y maes celfyddydau hygyrch a'r heriau o fyw bywyd gyda nam golwg etifeddol ar hyd ei hoes. Mae Gwennan yn trafod ei gwaith yn defnyddio'r celfyddydau i feithrin hyder ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion anabl, gan bwysleisio sut y gall creadigrwydd roi llais i bobl sy'n aml yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed. Mae hi hefyd yn rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda chyflyrau llygaid cymhleth sydd wedi effeithio sawl cenhedlaeth o'i theulu, gan gynnwys ei rhieni, ei chwaer a'i merch hynaf. Mae Gwennan yn cofio heriau plentyndod ac ysgol, gan drafod bwlio, yr awydd i "ffitio i mewn", a'r rhwystrau y mae pobl â nam golwg yn eu hwynebu mewn addysg. Yn fwy diweddar, fel mam i ferch a etifeddodd ei chyflwr llygaid, mae wedi profi straen emosiynol a brwydr gyson i sicrhau'r gefnogaeth gywir iddi yn yr ysgol. Yn y pen draw, symudodd ei merch, Catrin, i goleg arbenigol i bobl â nam golwg, penderfyniad a drawsnewidiodd ei bywyd. Mae'r bennod hefyd yn edrych ar bwysigrwydd chwaraeon hygyrch, yn enwedig 'pêl gôl', camp a gafodd effaith enfawr ar Catrin. Mae Gwennan yn esbonio sut y datblygodd ei merch o chwarae'r gamp i gynrychioli tîm menywod Prydain, gyda'r gobaith o gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Los Angeles 2028. Yn ogystal, mae Gwennan yn trafod dod o hyd i hapusrwydd personol ar ôl ysgariad, a phwysigrwydd bod yn agored am anabledd yn hytrach na'i guddio. Mae hon yn bennod gynnes, ddoniol ac ysbrydoledig am wydnwch, teulu, hunan-dderbyniad a'r ffordd y gall pobl anabl ffynnu pan fyddant yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd cywir.
Cyfres 2, Pennod 2 : Hollie Crooke
2026/07/28
Yn enedigol o Sir Y Fflint, mae Hollie bellach yn byw gyda'i gŵr Ben ym Mro Morgannwg. Un o'r ffyrdd mae Hollie yn ceisio ymlacio a lleddfu ei phryderon yw creu clust-dlysau arbennig sy'n addurno ei chymhorthion clywed. Mae taith anabledd Hollie yn un anodd, gyda dirywiad ei chlyw wedi bod yn frwydr gyson. Er hyn mae ei gonestrwydd am y realiti o fod yn berson byddar, a phopeth a ddaw yn ei sgil, yn anhygoel. Fel dynes ifanc, sydd newydd briodi, sut mae hi yn ymdopi gyda phenderfyniadau anodd bywyd? Oes modd byw gyda holl sgil effeithiau ei hanabledd? Oes help allan yna iddi? Fydd Hollie yn cyffwrdd eich calonnau ac yn ail ddiffinio ein gwybodaeth am fyddardod.
Cyfres 2, Pennod 1 : Paul Davies
2026/07/21
Yr actor a pherfformiwr Paul Davies yw gwestai Bethan Richards. Wedi ei eni gyda dim ond un o'i ddwylo, mae agwedd Paul tuag at ei wahaniaeth corfforol wedi newid droeon dros y blynyddoedd, ac yma mae'n esbonio sut y dysgodd i dderbyn ei hun a bod yn hyderus yn ei hunaniaeth. Cafodd ei fagu yn y Rhondda gan fwynhau profiadau cadarnhaol o fewn y gymuned glos. Tra yn ddisgybl ysgol defnyddiodd hiwmor a pherfformio i ymdopi gyda'i anabledd, arweiniodd hyn at yrfa o gyflwyno a pherfformio gan gynnwys cyfnod yn gweithio fel 'cot goch' mewn gwersyll gwyliau. Yno roedd yn ymfalchïo yn ei anabledd gan hyd yn oed defnyddio ei fraich fel cymeriad 'stumpy' sy'n lys enw arno. Trafodai hefyd ei yrfa ehangach, gan gynnwys ei waith ar y llwyfan, ei brofiad o gystadlaethau fel Mr Gay Wales a Mr Gay Universe, a’i rôl fel model a llais dros gynhwysiant. Ond er y positifrwydd sydd ganddo nawr, mae'n esbonio iddo ddioddef cyfnodau tywyll iawn a bod colled a galar wedi cael effaith dwys ar ei iechyd meddwl. Mae wedi teimlo pwysau ar adegau i “ymddangos yn abl” a soniai am y blinder a ddaw yn sgil esbonio ei anabledd i eraill yn gyson. Pwysigrwydd cymuned a dychwelyd i Gymru gododd Paul o'i iselder ac mae’n pwysleisio bod chwilio am gefnogaeth a bod yn agored yn gam pwysig mewn adferiad.
Mae cyfres 2 ar y ffordd!
2026/07/16
Ymunwch gyda Bethan Richards ar gyfer cyfres 2 Meddwl yn Wahanol, wrth iddi sgwrsio gyda Paul Davies, Hollie Crooke a Gwennan Young.
Nathan Gill a chysgod y Kremlin
2026/06/30
Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud? Yn y bennod hon, mae’r newyddiadurwr Mared Gwyn yn trafod Nathan Gill, cyn Aelod o Senedd Ewrop. Bu’n un o ffigyrau amlycaf Brexit cyn ei gwymp dramatig fel y gwleidydd Prydeinig cyntaf i gael ei garcharu am y drosedd o gael ei lwgrwobrwyo. Cynhyrchiad Meicro Cyf ar gyfer BBC Radio Cymru
Y Brodyr Darvell - Carcharu ar gam
2026/06/23
Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud? Yn y bennod hon, gohebydd arbennig BBC Radio Cymru, Garry Owen sydd yn ail-fyw hanes llofruddiaeth Sandra Phillips yn Abertawe yn 1985. Achos a ddaeth yn un o anghyfiawnderau mwyaf cofiadwy Cymru. Fe glywn sut y carcharwyd dau frawd bregus ar gam, ac am yr ymgyrch am gyfiawnder. Cynhyrchiad Meicro Cyf ar gyfer BBC Radio Cymru
Trywanu Yn Ysgol Dyffryn Aman
2026/06/16
Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud? Yn y bennod hon, mae gohebydd newyddion BBC Cymru, Meleri Williams, yn ail-fyw un o achosion mwyaf brawychus Cymru o’r blynyddoedd diwethaf – y trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill 2024. Anafwyd dau athro a disgybl a gadawodd y digwyddiad effaith ddofn ar y gymuned leol gan gipio sylw'r genedl. Cynhyrchiad Meicro Cyf. ar gyfer BBC Radio Cymru

Podcast reviews

Read Lleisiau Cymru podcast reviews


0 out of 5
0 reviews

Podcast sponsorship advertising

Start advertising on Lleisiau Cymru relevant audience podcasts


What do you want to promote?